Telerau defnyddio
Hawlfraint
Oni nodir yn wahanol ar dudalennau penodol, mae’r holl destun a delweddau ar y wefan hon yn © Artes Mundi. Cedwir pob hawl. Rydym am annog cylchrediad ein gwaith mor eang â phosibl heb effeithio ar berchnogaeth yr hawlfraint, sy’n aros gyda deiliad yr hawlfraint. Am y rheswm hwn, os hoffech ddefnyddio unrhyw gynnwys, cysylltwch ag Artes Mundi drwy e-bostio info@artesmundi.org gan nodi YMHOLIAD Y WASG (PRESS ENQUIRY) fel pwnc yr e-bost am ganiatâd a gwybodaeth bellach.
O bryd i’w gilydd rydym yn cynnwys dolenni i wefannau eraill o’n gwefan ni. Er ein bod yn edrych ar bob gwefan yn ofalus i asesu ansawdd a dibynadwyedd y cynnwys, nid ydym yn gyfrifol amdanynt. Ni ddylid cymryd bod cynnwys dolen yn gymeradwyaeth o unrhyw fath. Er ein bod yn ceisio eu diweddaru’n gyson, ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser, ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau hyn.
Mae Artes Mundi yn cynnal amrywiaeth o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Twitter, Facebook, Instagram, yn ogystal â Vimeo a Soundcloud.
Rydym yn ddiolchgar am negeseuon a dderbynnir drwy Twitter, ac am ymatebion i’n negeseuon. Ni allwn ymateb i ymholiadau drwy Twitter bob amser oherwydd efallai y bydd angen atebion cymhleth arnynt, sy’n anodd eu rhoi drwy gyfrwng sydd â nifer cyfyngedig o nodau. Lle mae angen ymateb, efallai y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol neu’n darparu gwybodaeth ar ein gwefan (gyda neges twitter i dynnu sylw dilynwyr ati).
Ymwadiad
Mae gwefan Artes Mundi yn cael ei chynnal i chi edrych arni at ddefnydd personol. Mae edrych ar y wefan hon a’i defnyddio yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym ar y dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan gyntaf.
Er bod gofal wedi’i gymryd wrth baratoi’r wybodaeth sydd ar y wefan, nid yw Artes Mundi yn gwarantu ei chywirdeb, ac nid ydynt yn gyfrifol am unrhyw wallau neu hepgoriadau nac am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan ddefnyddwyr yn sgil defnyddio unrhyw wybodaeth a gyhoeddir ar y tudalennau hyn.
Darperir yr holl wybodaeth ar y wefan hon ‘fel y mae’, heb unrhyw warant o gyflawnrwydd, cywirdeb nac amseroldeb na’r canlyniadau a geir o ddefnyddio’r wybodaeth hon, a heb warant o unrhyw fath boed yn benodol neu ddealledig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r gwarantau dealledig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, osgoi torri rheolau, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sydd yn y deunydd y wefan yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan neu’r gweinydd sy’n ei darparu yn rhydd o feirysau nac yn cynrychioli swyddogaethau, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw achos am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw golled neu iawndal o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu fethu defnyddio data neu elw sy’n deillio o ddefnyddio gwefan Artes Mundi neu mewn cysylltiad â’r defnydd ohoni.
Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.