ni (nhw) ni

gan Ewan Smith

ni (nhw) ni

 

onid addas
ydi’r distawrwydd
a’r diffyg chwerthin

 

… cartre … cysur … calon … cymuned …

 

Beth ydi afon? Llif o ddŵr? Traethelli? Bywyd gwyllt? Syniad?

Fe allwch chi lygru dŵr, cloddio traethelli, lladd bywyd. Ond a allan nhw ddinistrio syniad?

 

… llygredd … lladd … lladrata … llorio … 

 

… dychmygwch grac mewn realiti … y milwyr goresgynnol wedi’u harfogi â rhwydi … pilenni’n tyfu rhwng bodiau’u traed … maen nhw’n anadlu’r dŵr … yn nofio ymhlith y pysgod … yn chwilio am elynion nad ydyn nhw bellach yn eu nabod …

 

… gelynion … glesni … gwawd … goresgyn …

 

“Ni chaiff yr hyn a reolir yr hawl i dyfu’n rhydd.”

Bydd grym yn halogi’r pridd. Bydd natur yn ei iachau. 

Daw twf o hyd i’w ffordd ei hun o ddychwelyd.

 

… difrod … dŵr … dychwelyd … daioni …

 

… ôl … yn ôl … hawlio yn ôl … ein hawl ni … ein lle ni … llecyn … gelyn … gwarth … tarth … tir … hir … hiraeth … caeth … cof … angof … aer … caer … curo … malio … milain … bychain … beichus … enfys … gwŷs … gwŷdd … rhydd … cywilydd … pridd … pres … parhad … dinistriad … safiad … gwlad … rhad … rhwydo … gro … grym … llym … lle … ein lle ni … ein hawl ni … hawlio yn ôl … hawlio yn ôl a wnawn ni …

ni (nhw) ni gan Ewan Smith


Credit: Ewan Smith

 

 

 

 

Dros y blynyddoedd, mae Ewan Smith wedi gweithio fel newyddiadurwr, gŵr tŷ, gofalwr plant, cynorthwyydd dysgu ac athro ysgol gynradd. Yn 2016, ymddeolodd i fyw ar lan y môr yng ngogledd Cymru lle, ar hyn o bryd, mae yntau a’i wraig Anna yn byw’r breuddwyd. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth, straeon byrion a nofelau poced i gylchgronau merched ac mae wrthi’n frwd yn dysgu’r Gymraeg. Enillodd y wobr farddoniaeth i ddysgwyr Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. 

 

Trwy’r prosiect From Now On, derbyniodd Ewan gefnogaeth fentora ac adborth beirniadol gan Hanan Issa, Cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From.