GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Firelei Báez

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Firelei Báez

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Firelei Báez.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â rhai curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

 

Mae’r cyntaf o chwe digwyddiad Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Firelei Báez mewn sgwrs â Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia; Dr. Francesca Sobande, darlithydd Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd; a’r artist gweledol, ymchwilydd a chyflwynydd Dr. Adéọlá Dewis. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artistiaid a’u gwaith.

 

 

Ganwyd Firelei Báez yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac mae’n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd. Caiff ei chynrychioli gan James Cohan, Efrog Newydd. Mae Báez wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn 2019 yn Amgueddfa Gelf Mennello, Orlando; Canolfan Celfyddyd Gyfoes Witte de With, Rotterdam; a’r Modern Window yn yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd. Trefnwyd ei harddangosfa unigol fawr yn 2015 Bloodlines gan Amgueddfa Gelf Pérez Miami a theithiodd i Amgueddfa Andy Warhol yn Pittsburgh. Yn 2017 cafodd ei dethol i fod ar y rhestr fer ar gyfer Future Generation Art Prize Sefydliad Celfyddyd Pinchuk, arddangosodd yn 57fed Biennale Fenis ac yn 2019 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Gelfyddydau Soros iddi.

 

 

Mae Dr. Adéọlá Dewis yn artist gweledol, ymchwilydd a chyflwynydd sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Mae’n hanu o Trinidad a Tobago, ac mae ei gwaith yn archwilio mynegiadau o hunaniaeth a pherthyn yn y boblogaeth wasgaredig. Mae gwaith Dr. Dewis yn ystyried y ffyrdd y gall perfformiadau rhyddfreiniol fel Carnifal, dawnsiau masgiau a defodau lywio dulliau o fynd ati i greu celf. Ar hyn o bryd, hi yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Laku Neg: menter artistiaid digidol sydd ar gynnydd ar gyfer artistiaid gwasgaredig Affricanaidd, sy’n hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth y boblogaeth wasgaredig Affricanaidd drwy gof, athroniaeth, perfformiad ac adrodd straeon, fel ffocws allweddol ar gyfer agenda gwneud iawn. Mae hi’n ddarlithydd sy’n cael ei thalu fesul awr ym Mhrifysgol De Cymru hefyd.

 

 

Rachel Kent yw Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes (MCA) Awstralia. Mae’n arweinydd celfyddydol a hanesydd celf profiadol, ac mae’n siarad ac yn cyhoeddi’n eang ar gelfyddyd fodern a chyfoes, gyda diddordeb arbennig mewn themâu amgylcheddol a hawliau dynol. Mae Rachel yn rheithiwr ar gyfer gwobrau celf gyfoes yn Asia ac Ewrop; ac mae’n aelod o amrywiaeth o baneli cynghori a golygyddol academaidd, llywodraeth a diwylliannol.

 

 

Mae Dr.Francesca Sobande yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (Prifysgol Caerdydd). Hi yw Cyfarwyddwr Cwrs y rhaglen BA Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant ac mae’n aelod o’r Labordy Cyfiawnder Data. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar ddiwylliant digidol, y boblogaeth wasgaredig Ddu, ffeministiaeth, gwaith creadigol, pŵer a diwylliant poblogaidd. Dr. Sobande yw awdur The Digital Lives of Black Women in Britain (Palgrave Macmillan, 2020) ac mae ar fwrdd ymddiriedolwyr Artes Mundi. Mae hi hefyd yn gydawdur llyfr sydd i’w gyhoeddi’n fuan gyda Layla-Roxanne Hill sef Black Oot Here: Black Lives in Scotland (Bloomsbury/Zed Books, 2022).