Hannan Jones – Cosmotechnic Templum
“Gall anoleuderau gydfodoli a chydgyfarfod, gan wau deunyddiau. Er mwyn deall y rhain, rhaid canolbwyntio ar ansawdd y gwead yn hytrach nag ar anian ei elfennau. Am y tro, efallai, rhowch y gorau i’r hen obsesiwn â darganfod beth sydd wrth wraidd anianau. Byddai rhywbeth gwych a mawrfrydig am gychwyn symudiad o’r fath, gan gyfeirio nid at Ddynoliaeth ond at ymraniad gorfoleddus dynoliaethau. Yn hyn, mae meddwl amdanom ein hunain a meddwl am eraill yn darfod yn eu deuoliaeth. Dinesydd yw pob Arall, nid barbariad mwyach. Mae’r hyn sydd yma yn agored, cymaint â hyn yn y fan yna”
Eduoard Glissant, Poétique de la Relation, p.190
Mae yna ryw syniad cyffredin ein bod ni, pan fyddwn ni’n edrych ymlaen, yn wynebu’r dyfodol, a phan fyddwn ni’n edrych y tu ôl i ni, ein bod ni’n wynebu’r gorffennol. Ond beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n edrych am i fyny?
Yn y cosmos, mae posibiliadau rhyng-blethedig llawer o fytholegau yn bodoli ochr yn ochr, a gall astroleg, rhag-arwyddion ac aliniadau’r planedau gyfateb i benderfyniadau rhyfel, heddwch a gwleidyddiaeth yn unol ag arwyddion wybrennol, gan adlewyrchu cred bod rhaid i lywodraethu daearol adlewyrchu’r drefn gosmig. Mae Amffitheatr Caerllion yn fwyaf tebygol o fod wedi cael ei lleoli yn gyfunion â sêr yr Afr, sef arwyddluniau’r lleng, gan gynrychioli disgyblaeth, uchelgais a strwythur.
Wedi’i saethu ar 16mm, daethom at ein gilydd gyda chwe chamera yn perfformio mewn sinema araf, yn wynebu mynedfeydd y Gogledd, y De, y Dwyrain a’r Gorllewin, ac yng nghanol y llestr cosmolegol sef yr Amffitheatr. Dros ddwy noson, cawsom ein cysylltu â chontinwwm amser, lle mae’r hynafol a’r anfeidrol yn cwrdd. Yn y gofod hwn, mae archaeoleg yn troi’n ddyfodoleg, gan agor safbwyntiau sy’n mynd y tu hwnt i resymegau confensiynol. Sut gallai ein dealltwriaeth o hanes lywio’r dyfodol posibl?
Testun: Dr Mark Lewis, Uwch Guradur, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Hannan Jones
Credydau
Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd: Hannan Jones
Sinematograffeg 16mm: Ruby Allan, James Holcombe, Hannan Jones, Joanne Lee, Ross Little, Daisy Smith.
Prosesu â Llaw Du a Gwyn 16mm: James Holcombe
Dylunio Sain: Hannan Jones
Recordiadau: Recordiad maes electroffonig ac electromagnetig SOMA Laboratory Ether V ac ELF/VLF
Cyfansoddiad: Beat/s Kitchen (Hannan Jones a Shamica Ruddock)
Cymysgu a Meistr: Ronan Fay at Green Door Studios
Print 16mm golau gorau: Colorlab, Maryland
Gyda diolch i Dr Mark Lewis, Nigel Prince, Melissa Hinkin, Dee Iskrzynska, Katarzyna Lukasik, Reman Sadani, Dr Philippa Lovatt a Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Comisiynwyd ar gyfer Safbwynt(iau), mewn partneriaeth ag Artes Mundi, Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru.