Taith Disgrifio Sain: Meiro Koizumi

Taith Disgrifio Sain: Meiro Koizumi

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae fideo Meiro Koizumi yn ymchwilio i’r ffiniau rhwng y preifat a’r cyhoeddus, y dilys a’r trefnedig, yn enwedig fel a welir mewn adegau o gofio torfol neu ddinesig, maes sydd o bwysigrwydd penodol i’w dreftadaeth ddiwylliannol Japaneaidd. Yn aml, bydd ei waith yn ymdrin yn benodol ag eiliadau unigol lle y gofynnir cwestiynau am sut gallen ni ymgysylltu ac ymwneud â a wynebu eiliadau poenus yn hanes cenedl a sut yr ydym yn cofio gwrthdaro heb syrthio’n ôl ar hiraeth am yr hyn a fu, adolygiadaeth neu bropaganda jingoistaidd. Yn nodweddiadol, mae ei fideos yn datblygu i gyflwyno sefyllfaoedd beunyddiol sydd wedi’u trawsnewid yn rhai llawn tyndra. Ei waith Battlelands (2018) oedd y tro cyntaf i’r artist weithio gyda thestunau nad oeddent yn Japaneaidd, gyda Koizumi yn ymchwilio i ddimensiwn seicolegol trais rhyfel drwy berfformiadau gan bump o gyn-filwyr Americanaidd o ryfeloedd yn Irac ac Affganistan. Gwrthbwysir eu straeon am brofiadau trawmatig drwy ddarlunio gofodau domestig eu cartrefi a thirweddau America a grëwyd gan y cyn-filwyr yn gwisgo camerâu corff i greu gofod materol a meddyliol teimladwy’r rheini sy’n dychwelyd o ryfel.