Taith Disgrifio Sain: Prabhakar Pachpute

Taith Disgrifio Sain: Prabhakar Pachpute

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae gwaith Prabhakar Pachpute yn ystyried yr amodau gwaith, y cloddio di-baid, y datblygu cymdeithasol anghyfartal a gwleidyddiaeth y tir sydd wedi’u gwreiddio yn ei dalaith frodorol Chandrapur, sy’n cael ei hadnabod fel ‘dinas yr aur du”. Yn hanu o dair cenhedlaeth o lowyr, mae ei arluniau manwl gywir, ei animeiddiadau a’i ddefnydd o siarcol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’i destun a’i wreiddiau teuluol. Yn aml yn arlunio’n syth ar waliau, mae defnydd Pachpute o fotiffau swrrealaidd yn creu gosodweithiau murol aruthrol ac amgylcheddau ymdrwythol o dirweddau dychmygol a ffigurau cymysgryw sy’n mynd i’r afael yn feirniadol â materion fel llafur, ecsbloetio a’r ffordd y mae’r unigolyn yn cael ei lyncu i’r torfol. Yn symud rhwng y personol a’r byd-eang, mae Pachpute yn ymdrin â chymhlethdod o drawsnewidiadau hanesyddol ar lwyfan economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.