![AM_Chapter_249-scaled-1920×751 GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape](https://artesmundi.org/wp-content/uploads/2021/03/AM_Chapter_249-scaled-1920x751-1-1500x751.jpg)
GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Dineo Seshee Bopape. Mae’r ail o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Dineo Seshee Bopape mewn sgwrs gyda Marie Hélène Pereira, Curadur a Chyfarwyddwr Rhaglenni yn Raw Material Company, Senegal; Elvira Dyangani Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom Gallery, Llundain; yr artist a’r gweithiwr ynni, Evan Ifekoya; a’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau, Tina Pasotra. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.