Xu Bing

Ganwyd Xu Bing yn Tsieina ym 1955 ac mae bellach yn byw yn New York.

Credit: Xu Bing. Photography by Jeff Morgan.

Mae’n wneuthurwr printiau ac yn artist gosodwaith gyda diddordeb arbennig yn y modd y gall arlliwiau ieithyddol effeithio ar wahaniaethau diwylliannol. Arddangosodd yn Biennale Fenis 1993, Triennale Yokohama 2002, ac mae hefyd wedi dangos ei waith yn y V&A, yn y Smithsonian Institute, ac yn Sbaen, Japan, Awstralia a De Affrica.