Naomi Rincón Gallardo
Arddangos yn Chapter
Noder: mae’r ffilmiau yn yr arddangosfa yma’n cynnwys goleuadau’n fflachio, ac felly mae’n bosib nad yw’n addas i bobl ag epilepsi ffotosensitif.
Mae Naomi Rincón Gallardo (g 1979) yn artist gweledol sy’n byw ac yn gweithio rhwng Dinas Mecsico ac Oaxaca.
Credit: Naomi Rincón Gallardo - Credit Courtesy the artist
O safbwynt dad-drefedigaethol-cuir, mae ei bydoedd beirniadol-fytholegol seiliedig ar ymchwil yn ymdrin â chreu gwrth-fydoedd mewn lleoliadau neodrefedigaethol. Yn ei gwaith mae’n cyfuno ei diddordebau mewn gemau theatr, cerddoriaeth boblogaidd, cosmoleg Mesoamericanaidd, ffuglen ddamcaniaethol, dathliadau a chrefftau gwerinol, ffeministiaeth ddad-drefedigaethol a beirniadaeth cwiar lliw. Cwblhaodd y rhaglen ddoethuriaeth PhD mewn Ymarfer yn Academi Celf Gain Fienna.
Mae ei harddangosfeydd unigol yn ddiweddar yn cynnwys “Tzitzimime Trilogy”, la Casa Encendida Madrid (2023); “Una Trilogía de Cuevas (A Trilogy of Caves)”, Museo de Arte Contemporáneo de Oaxaca (2020); “May Your Thunder Break the Sky”, Kunstraum Innsbruck (2020); “Heavy Blood”, Museo Experimental El Eco, Dinas Mecsico (2019).
Mae ei harddangosfeydd grŵp a dangosiadau perfformiadol yn cynnwys: “Cosmovisions on Land and Entangled Futures”, Canolfan Celf Gyfoes Baltic, Gateshead (2023–24); “Masquerades: Drawn to Metamorphosis”, MOMENTA Biennale de l’image, Montreal (2023); 59edd Biennale Fenis (2022); 34edd Bienal de São Paulo (2021); 11eg Biennale Berlin (2020).
Cynrychiolir Naomi Rincón Gallardo gan Parallel Oaxaca, Mexico.
Please click images to enlarge
Taith 3D Naomi Rincón Gallardo
Mae Naomi Rincón Gallardo yn gweithio ym maes ffeministiaeth ddad-drefedigaethol a beirniadaeth cwiar lliw i ddatblygu gweithiau beirniadol–fytholegol sy’n ymdrin â chreu gwrth-fydoedd dyfaliadol mewn lleoliadau neodrefedigaethol. Mae’r ‘Trioleg Tzitzimime’, sy’n cael ei gyflwyno yn Chapter, yn cynnwys gweithiau fideo ynghyd â dyfrlliwiau a cherfluniau cysylltiedig. Duwiesau benywaidd yn y cosmos Mesoamericanaidd yw’r Tzitzimime, yn cael eu hofni oherwydd eu gallu i ddod i lawr i’r Ddaear a difa dynion yn ystod diffyg ar yr haul, pan dybid y byddai tywyllwch yn trechu am byth. Mae Rincón Gallardo yn cyfuno estheteg DIY swreal, mythau Mesoamericanaidd wedi’u bastardeiddio, cerddoriaeth, perfformiadau, propiau cerfluniol wedi’u gwneud â llaw a hiwmor i gynhyrchu chwedlau grymus mewn ffyrdd afieithus annormadol.
Naomi Rincón Gallardo Disgrifiad Sain
Gwrandewch ar ddisgrifiad sain o arddangosfa Naomi Rincón Gallardo.
At The Table gyda Naomi Rincón Gallardo
Fel rhan o gyfres At The Table, cyfarfu Naomi Rincón Gallardo mewn sgwrs â Laura Gutiérrez, Deon Cyswllt ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned ac Ymarfer Cyhoeddus yng Ngholeg y Celfyddydau Cain, Prifysgol Texas, yr artist Nina Hoechtl a Beatriz Lobo Britto, Curadur yn iniva. Cyflwynwyd y gyfres At The Table mewn partneriaeth â British Council Cymru.
Cyfweliad gydag ArtReview
Darllenwch y cyfweliad ArtReview gyda Naomi Rincón Gallardo yma.
Mae ArtReview yn bartner cyfryngau i Artes Mundi 10.