Mae gwaith Firelei Báez yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cliciwch yma i gynllunio'ch ymweliad

Cliciwch yma i gael taith dywysedig
o fideo o amgylch arddangosfa'r artist

Firelei Báez

Mae gwaith trawiadol Firelei Báez yn ailwampio testunau a delweddau sydd wedi’u cloddio o naratifau eang y diaspora wrth fynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol ac ymfudo i edrych ar bosibiliadau newydd i’r dyfodol. Mae ei phaentiadau hynod, lliwgar a manwl, sydd weithiau wedi’u cyfuno’n osodweithiau cerfluniol mawr, yn dwyn at ei gilydd fapiau trefedigaethol dan orchudd ciwiau gweledol symbolaidd sy’n ymestyn o decstiliau a gorchuddion waliau moethus gyda motiffau blodeuog o’r oes drefedigaethol i batrymau caligraffig, gweadau gwallt, penwisgoedd pluog a gemwaith gleiniog. Yn aml yn cynnwys protagonyddion benywaidd cryfion, mae ei gweithiau’n ymgorffori ieithoedd gweledol mytholeg a hanesion y Carabî ochr yn ochr â’r rheini a geir mewn ffuglen a ffantasi wyddonol i ddarlunio hunaniaethau fel pethau ansefydlog a straeon a etifeddir fel rhai sy’n esblygu o hyd tuag at fydoedd a chyflyrau bodolaeth dychmygol a newydd.

Credit: Firelei Baez. Photo: Lia Clay

Arddangosfa Artes Mundi 9

 

Yn nodweddiadol o waith Báez, mae Untitled (A Map of the British Empire in America) ac Untitled (City Incinerator ‘B’) sy’n cynnwys dadleuwyr benywaidd cryf, sy’n bresennol yn weledol drwy gorff ac addurniadau. I’w gweld mewn sawl ffurf, gan adlewyrchu natur fythol newidiol y bod, mae’r ddau lun yn dangos Ciguapa, ffigur benywaidd mytholegol sy’n byw ar y mynydd ac yn y goedwig o lên gwerin Gweriniaeth Dominica.

 

Er bod gan Untitled (A Map of the British Empire in America) ran o fap atlas o’r enw “A Map of the British Empire in America with the French and Spanish Settlements adjacent thereto”, a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1733 — yr unig dir a ddangosir ar y rhan hon o’r Iwerydd yw Bermuda — mae gweithiau eraill a gyflwynir yn defnyddio tir gwahanol. Mae Untitled (Marine Hospital) a Untitled (City Incinerator ‘B’) yn dangos safleoedd â dylanwadau diwylliannol mawr o atgynhyrchiadau archifol o ddiagramau pensaernïol a gomisiynwyd gan WPA gyda “Some Data in Regard to Foundations in New Orleans and Vicinity” wedi’i nodi fel ffynhonnell o 1937. Yn yr un modd, mae the soft afternoon air as you hold us all in a single death (To breathe full and Free: a declaration, a re-visioning, a correction) yn ymgorffori gwahanol diroedd a dynnwyd o fapiau hanesyddol a diagramau o gyfnodau gwladychol gan gynnwys rhai sy’n disgrifio Caerdydd, ei phorthladd a mecanweithiau masnach hanesyddol.


Oriel Delweddau

Please click images to enlarge

Bywgraffiad

Mae Firelei Báez (b 1981, Gweriniaeth Dominica; byw a gweithio yn Efrog Newydd) wedi cael arddangosfeydd unigol yn ICA Watershed, Boston; Mennello Museum of Art, Orlando; Witte de With Center for Contemporary Art, Rotterdam; a’r Modern Window at the Museum of Modern Art, Efrog Newydd. Trefnwyd ‘Bloodlines’, ei harddangosfa unigol fawr yn 2015 gan Pérez Art Museum Miami cyn i’r arddangosfa deithio ymlaen i’r Andy Warhol Museum yn Pittsburg. Cafodd Báez ei chynnwys yn 10fed Biennale Berlin yn 2018 gan gyrraedd rhestr fer 2017 ar gyfer cyflwyniad gwobr Future Generation Art Prize y Pinchuk Art Foundation yn 57fed Biennale Fenis. Dyfarnwyd gwobr yr Herb Alpert Award in the Arts iddi yn 2020, a’r Soros Arts Fellowship yn 2019; y Smithsonian Artist Research Fellowship; a’r United States Artists Fellowship. Cynrychiolir Firelei Báez gan James Cohan, Efrog Newydd.