Artes Mundi 9

15 Mawrth –
5 Medi 2021

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd,
Chapter a g39

Cliciwch yma i gael teithiau tywys fideo o
arddangosfeydd yr artistiaid

Er i’r rhestr fer gael ei chadarnhau gyntaf ym mis Medi 2019 – ar adeg pryd na allai fawr neb ddarogan beth roedd y byd yn rhuthro tuag ato – nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod yr artistiaid i gyd yn ystyried, ymdrin â ac yn cwestiynu rhai o’r materion mwyaf tyngedfennol yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae cyflwyniadau o waith newydd a diweddar yn canolbwyntio ar effaith difaol hanesion trefedigaethu, newid amgylcheddol, trawma ac iacháu rhwng cenedlaethau, adladd a chynhysgaeth gwrthdaro a phryderon parhaus ynglŷn â chynrychiolaeth a braint.

Credit: Beatriz Santiago Muñoz. Gosila, 2018; About falling, 2021. Courtesy the artist. Photography: Polly Thomas

Credit: Meiro Koizumi. The Angels of Testimony, 2019 (detail). Three-channel video installation, colour, sound, archival materials. Commissioned by the Sharjah Art Foundation. Courtesy the artist, Annet Gelink Gallery, Amsterdam and MUJIN-To Production, Tokyo. Installation view: Artes Mundi 9. Photography: Stuart Whipps

Mae’r artist Firelei Báez a aned yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac sy’n byw yn Efrog Newydd yn edrych ar naratifau alltudiaeth, yn dathlu goddrychedd du benywaidd ac yn dychmygu posibiliadau newydd i’r dyfodol drwy baentiadau deinamig, hynod a manwl. Drwy osodwaith ymdrwythol newydd, mae’r artist o Dde Affrica Dineo Seshee Bopape yn ymgysylltu’n faterol ac yn gysyniadol â lle, hanes a chanlyniadau’r fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd drwy wrthrychau, defod a chân gan gyflwyno celfyddyd fel rhywbeth sy’n ymgorffori’r potensial ar gyfer cydnabod a chyfamodi.

 

Mae triptych fideo teimladwy’r artist o Japan Meiro Koizumi Angels of Testimony yn mynd i’r afael â chynhysgaeth yr Ail Ryfel rhwng Tsieina a Japan (1937-1945), gan ddatgymalu tabŵs diwylliannol a chy-chwyn y broses iacháu drwy gydnabod hanesion cywilyddus. Mae pum ffilm a fideo’r artist o Puerto Rico, Beatriz Santiago Muñoz yn cydblethu’n farddonol i greu gosodwaith haenog o naratifau aflinol sy’n ystyried hanesion ac effaith presenoldeb parhaus gwahanol drefedigaethwyr ar Puerto Rico, ei thirwedd, ei phobl a’i diwylliant.

 

Mae Prabhakar Pachpute— y bu ei deulu’n gweithio ym mhyllau glo canol India am dair cenhedlaeth – yn tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol a rennir â’r gymuned lofaol yng Nghymru i greu gosodwaith sy’n cynnwys paentiadau, baneri a gwrthrychau sy’n harneisio eiconograffeg protest a gweithredu torfol. Mae gwaith gan yr artist Americanaidd Carrie Mae Weems, sy’n enwog am ei hymgysylltu pwerus â chyn-rychiolaeth ddu a benywaidd, yn cwmpasu hunaniaeth ddiwylliannol, hiliaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol a chanlyniadau grym. Mae gosodwaith ffotograffig newydd yn ystyried y diweddar actifydd hawliau sifil John Robert Lewis yng nghyd-destun y presennol, gyda detholiad o ddarnau mawr o’i hymgyrch celfyddyd gyhoeddus diweddar yn ymchwilio i effaith anghymesur y pandemig ar gymunedau lliw wrth gynnig negeseuon o obaith.

Beirniaid

 

Cosmin Costinas, Cyfarwyddwr Gweithredol a Churadur Para Site, Hong Kong a Chyfarwyddwr Artistig Triennale Kathmandu 2020

 

Elvira Dyangani Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom yn Llundain

 

Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes, Sydney, Awstralia

 

Gwobrau

Mae’r rheithgor ar gyfer gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol fwyaf y DU, Artes Mundi 9, yn unfryd unfarn wedi penderfynu dyfarnu’r wobr i bob un o’r chwe artist ar y rhestr fer eleni mewn cydnabyddiaeth o’r cyfnod yma o gynnwrf cymdeithasol ac economaidd eithriadol ac i gydnabod ansawdd neilltuol eu gwaith unigol, a’r cynnyrch hynod berthnasol sydd naill ai wedi’i greu o’r newydd neu ei ailgyflunio’n arbennig i’r arddangosfa.

 

Bydd yr artistiaid Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape  (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA) yn derbyn £10,000 yr un.

Credit: Artes Mundi 9 Prize Winners

Cyhoeddiad enillydd Gwobr Artes Mundi 9


Artistiaid

Artes Mundi 9

Firelei Báez

Artes Mundi 9

Dineo Seshee Bopape

Artes Mundi 9

Meiro Koizumi

Artes Mundi 9

Beatriz Santiago Muñoz

Artes Mundi 9

Prabhakar Pachpute

Artes Mundi 9

Carrie Mae Weems