Mae gwaith Meiro Koizumi yn cael ei arddangos yn
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cliciwch yma i gynllunio'ch ymweliad
Cliciwch yma i gael taith dywysedig
o fideo o amgylch arddangosfa'r artist
Meiro Koizumi
Mae fideo Meiro Koizumi yn ymchwilio i’r ffiniau rhwng y preifat a’r cyhoeddus, y dilys a’r trefnedig, yn enwedig fel a welir mewn adegau o gofio torfol neu ddinesig, maes sydd o bwysigrwydd penodol i’w dreftadaeth ddiwylliannol Japaneaidd. Yn aml, bydd ei waith yn ymdrin yn benodol ag eiliadau unigol lle y gofynnir cwestiynau am sut gallen ni ymgysylltu ac ymwneud â a wynebu eiliadau poenus yn hanes cenedl a sut yr ydym yn cofio gwrthdaro heb syrthio’n ôl ar hiraeth am yr hyn a fu, adolygiadaeth neu bropaganda jingoistaidd. Yn nodweddiadol, mae ei fideos yn datblygu i gyflwyno sefyllfaoedd beunyddiol sydd wedi’u trawsnewid yn rhai llawn tyndra. Ei waith Battlelands (2018) oedd y tro cyntaf i’r artist weithio gyda thestunau nad oeddent yn Japaneaidd, gyda Koizumi yn ymchwilio i ddimensiwn seicolegol trais rhyfel drwy berfformiadau gan bump o gyn-filwyr Americanaidd o ryfeloedd yn Irac ac Affganistan. Gwrthbwysir eu straeon am brofiadau trawmatig drwy ddarlunio gofodau domestig eu cartrefi a thirweddau America a grëwyd gan y cyn-filwyr yn gwisgo camerâu corff i greu gofod materol a meddyliol teimladwy’r rheini sy’n dychwelyd o ryfel.
Credit: Meiro Koizumi. Photo: Sergey Illin
Arddangosfa Artes Mundi 9
Mae Angels of Testimony yn waith fideo tair sgrin. Mae monitor yn dangos Hajime Kondo, cyn-filwr 99 oed o Ail Ryfel Sino-Japan (1937-45), un o’r ychydig gyn-filwyr yn Japan i ddatgan yn gyhoeddus wybodaeth a phrofiad o erchyllterau’r rhyfel a welodd ac a oedd yn rhan ohonynt. Wedi’i gyfweld gan yr artist i ddwyn i gof yr adegau hyn, gwelwn Kondo yn cael trafferth cofio, wedi’i lethu gan euogrwydd ac yn parhau i geisio gwaredigaeth. Fe’n denir gan ing yr hen ŵr, sy’n amlwg yn ei holl eiddilwch ac yn ei gyffesu dewr, ac fe’n brawychir ar yr un pryd gan arswyd y gweithredoedd y bu’n dyst iddynt Ochr yn ochr â hyn mae dau dafluniad o berfformiadau a ddatblygwyd gan bobl ifanc yn eu harddegau drwy weithdai gyda Koizumi, sy’n cynnwys tystiolaethau dethol gan Mr. Kondo, gyda’r bobl ifanc yn cydnabod ei ddatganiadau fel eiliad o berchnogaeth gyhoeddus, gwrthdaro ac adferiad. Mae’r tri fideo, pob un o wahanol hyd, yn cydblethu, yn newid yn barhaus, fel pe baent yn chwilio am ffordd newydd o gynrychioli hanes, yn enwedig y rheini sy’n aml yn rhy gywilyddus i fod yn rhan o ymwybyddiaeth bersonol a chyfunol.
Efallai y bydd testun y gosodiad fideo yn peri pryder i rai gwylwyr gan ei fod yn cynnwys disgrifiadau llafar o erchyllterau rhyfel.
Oriel Delweddau
Please click images to enlarge
Bywgraffiad
Mae Meiro Koizumi (g 1976, Japan; byw a gweithio yn Yokohoma) wedi cynnal sioeau unigol mewn sefydliadau o fri fel EYE Film Museum, Amsterdam; MoMA, Efrog Newydd; Mori Art Museum, Tokyo; Tate Modern, Llundain; De Hallen, Haarlem; Art Space, Sydney a’r Kadist Art Foundation, Paris. Mae ei waith hefyd wedi’i gynnwys mewn arddangosfeydd grŵp mawr, gan gynnwys y 5ed Aichi Triennale; 9fed Asia Pacific Triennal; Hara Museum of Contemporary Art, Tokyo; 6ed Biennial Lerpwl; 14eg Sharjah Biennal; MSGSU Tophane-i Amire Culture; Arts Center, Istanbul; Pinchuk Art Centre, Kyiv a Shanghai MOCA, ymhlith eraill. Yn ddiweddar cafodd ei gynnwys yn rhaglen breswyl fawreddog Mercedes-Benz Art Scope yn 2018. Cynrychiolir Meiro Koizumi gan Annet Gelink Gallery, Amsterdam a’r Mujin-to Production yn Tokyo.