Mae gwaith Prabhakar Pachpute yn cael ei arddangos yn
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cliciwch yma i gynllunio'ch ymweliad


Cliciwch yma i gael taith dywysedig
o fideo o amgylch arddangosfa'r artist

Prabhakar Pachpute

Mae gwaith Prabhakar Pachpute yn ystyried yr amodau gwaith, y cloddio di-baid, y datblygu cymdeithasol anghyfartal a gwleidyddiaeth y tir sydd wedi’u gwreiddio yn ei dalaith frodorol Chandrapur, sy’n cael ei hadnabod fel ‘dinas yr aur du”. Yn hanu o dair cenhedlaeth o lowyr, mae ei arluniau manwl gywir, ei animeiddiadau a’i ddefnydd o siarcol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’i destun a’i wreiddiau teuluol. Yn aml yn arlunio’n syth ar waliau, mae defnydd Pachpute o fotiffau swrrealaidd yn creu gosodweithiau murol aruthrol ac amgylcheddau ymdrwythol o dirweddau dychmygol a ffigurau cymysgryw sy’n mynd i’r afael yn feirniadol â materion fel llafur, ecsbloetio a’r ffordd y mae’r unigolyn yn cael ei lyncu i’r torfol. Yn symud rhwng y personol a’r byd-eang, mae Pachpute yn ymdrin â chymhlethdod o drawsnewidiadau hanesyddol ar lwyfan economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Credit: Credit: Prabhakar Pachpute. Photo (C) Sachin Bonde

Arddangosfa Artes Mundi 9

 

Ar gyfer Artes Mundi 9, mae gosodiad newydd Pachpute yn cael ei lywio’n rhannol gan gyfnod o ymchwil a wnaeth yn Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn Abertawe. Cafodd ei daro gan gysylltiadau llafur y dosbarth gweithiol a gan symbolau undod cyfunol rhwng y gwahanol draddodiadau glofaol yn India a Chymru. Er gwaethaf y cyd-destunau gwahanol, i Pachpute mae nodweddion cyffredin yn y ffordd y caiff unigolion, cymunedau a chymdeithasau eu heffeithio pan fydd yr economi’n esblygu, polisïau’n newid a defnydd tir yn cael ei drawsffurfio neu’n cael ei anghofio hyd yn oed, ac yn y ffyrdd o berfformio a welir yn ystod y weithred o brotestio.

 

Mae waliau’n cael eu gorchuddio mewn golch siarcol ynghyd â chyfres o faneri cynfas ar raddfa fawr fel A march against the lie (IA), gydag eiconograffeg sy’n symud rhwng y personol a’r byd-eang, o undod ac undeb cyfunol i dirweddau wedi’u hysbeilio ac unigolion wedi’u dryllio. Yn gysylltiedig â’r gweithiau mawr hyn, mae clwstwr o weithiau bach ar bapur, Museum Menageries, yn dangos hybridiau o weithiwr dynol a pheiriannau, lle mae Pachpute yn siarad â chymhlethdod parhaus trawsnewidiadau hanesyddol ar lwyfan economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.


Oriel Delweddau

Please click images to enlarge

Bywgraffiad

Mae Prabhakar Pachpute (g 1986, India; byw a gweithio yn Pune) wedi cynnal sioeau unigol yn Jameel Arts Centre, Dubai; National Gallery of Modern Art, Mumbai; Asilo, Via Porpora, Milano; a’r Glasgow School of Art fel rhan o Glasgow International yn 2019. Hefyd, bu’n rhan o arddangosfeydd grŵp yn Van Abbemuseum, Eindhoven; Kadist Art Foundation, Paris; MACBA, Barcelona ac yn rhan o’r 31ain São Paulo Biennial, 5ed Fukuoka Asian Art Trienniale, 14eg Istanbul Biennial, 8fed Asia Pacific Triennial, Brisbane; Dhaka Art Summit, 2il Yinchuan Biennale a’r 4ydd Kochi-Muziris Biennale.  Cynrychiolir Prabhakar Pachpute gan Experimenter Gallery, Kolkata.