Mae gwaith Beatriz Santiago Muñoz yn cael ei arddangos yn
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cliciwch yma i gynllunio'ch ymweliad


Cliciwch yma i gael taith dywysedig
o fideo o amgylch arddangosfa'r artist

Beatriz Santiago Muñoz

Mae Beatriz Santiago Muñoz yn fwyaf adnabyddus am ffilmiau sydd wedi’u gwreiddio mewn cyfnodau hirfaith o arsylwi ac ymchwil gan gyfuno agweddau ar ethnograffeg a theatr i edrych ar amodau cymdeithasol a gwleidyddol Puerto Rico, ei mamwlad, a’r Carabî. Yn aml, bydd ei gwaith yn canolbwyntio ar ailddatblygu a boneddigeiddio tirwedd Puerto Rico drwy seilwaith newydd neu brosiectau twristaidd neu rymoedd naturiol fel stormydd a daeargrynfeydd diweddar. Gan gydweithio ag ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd gan gynnwys iachawyr, actifyddion, cyn-garcharorion gwleidyddol a chigyddion, mae Muñoz yn ystyried yr unigolion hyn fel prif weithredwyr potensial trawsnewidiol ei chamera. Mewn ffordd farddonol, mae ei gwaith yn datgelu sut mae’r grymoedd yma er newid yn effeithio ar gymunedau lleol.

 

Mae Santiago Muñoz hefyd yn chwarae â holl natur gwneud ffilmiau ei hun, gan weithiau drin a thrafod neu ymyrryd â lens y camera i ddryllio’r ddelwedd dafluniedig neu gyflwyniadau sy’n cynnwys tafluniadau lluosog sy’n gorgyffwrdd i greu naratifau afliniol sy’n awgrymu darlleniadau neu bosibiliadau amgen, gan gyfosod y dogfennol â ffuglen ac adrodd straeon. Yn 2017, bu’n cymryd rhan yn Biennale Whitney.

Credit: Beatriz Santiago Muñoz

Arddangosfa Artes Mundi 9

 

Ceir tafluniadau ffilm a fideo 16mm, gan gynnwys y gwaith newydd About falling, a gyda’i gilydd maent yn darlunio ardaloedd Puerto Rico sydd wedi gweld newid mawr a’r cymunedau sydd bellach yn byw, yn gweithio ac yn ymdopi ag effeithiau’r gweithredoedd hyn, boed yn safleoedd hen ganolfan filwrol yn yr Unol Daleithiau neu yn achos Gosila, tirwedd a ddarlunnir yn y dinistr yn sgil Corwynt Maria yn 2017. Drwy’r tafluniadau lluosog, sy’n gorgyffwrdd, crëir naratifau nad ydynt yn rhai llinol sy’n awgrymu darlleniadau neu bosibiliadau amgen drwy gyfuniadau o ddelweddau dogfennol gyda ffuglen ac adrodd straeon.

 

Mae’r detholiad o ffilmiau a’r casgliad o wrthrychau cerfluniol, Malascopios 1-5, hefyd yn tanlinellu sut mae Santiago Muñoz yn chwarae gydag union natur gwneud ffilmiau ei hun ac yn tynnu ein sylw at luniad delweddau sy’n symud. Weithiau mae lens camera yn cael ei newid neu ei addasu i ddryllio’r ddelwedd a daflunnir, hwyrach fod y sain yn cael ei ddwysau neu, fel sy’n wir yn achos About falling, caniateir i’r ffilm redeg nes ei bod yn dirywio, gan atgyfnerthu natur gorfforol ffilm a’i phriodoleddau materol.


Oriel Delweddau

Please click images to enlarge

Bywgraffiad

Mae Beatriz Santiago Muñoz (g 1972, Puerto Rico; byw a gweithio yn San Juan) wedi cyfrannu at gasgliadau cyhoeddus a phreifat fel Kadist, Whitney Museum a’r Guggenheim Museum. Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: ‘Gosila’ yn Der Tank, Basel; ‘Rodarán Cabezas’ yn Espacio Odeón, Bogotá́; ‘That which identifies them, like the eye of the cyclops’, yn Western Front; ‘A Universe of Fragile Mirrors’ yn PAMM Miami a ‘Song Strategy Sign’ yn y New Museum. Mae arddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys: ‘Whitney Biennial 2017′, NYC; ‘Prospect 4′, New Orleans; ‘8th Contour Biennale’, Mechelen; a ‘Ce qui ne sert pas’oublie’, CAPC-Bordeaux. Mae wedi derbyn gwobr celfyddydau Herb Alpert a grant artist gweledol Creative Capital 2015.