Aurora Trinity Collective, Ncheta
20 Hydref 2023 - 21 Ionawr 2024
Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5DZ
10:00 am - 4:30 pm
Mae Ncheta yn archwilio themâu cofio, iaith a phwysigrwydd personol a diwylliannol tecstilau. Mae’r gwaith yn un o ganlyniadau prosiect dwy flynedd ar y cyd ag Artes Mundi, Aurora Trinity Collective a’r Trinity Centre ac fe’i cyd-gynhyrchir gan Ogechi Dimeke a Helen Clifford.
Credit: Aurora Trinity Collective, Ncheta, 2023. Glynn Vivian Art Gallery. Credit - Polly Thomas
Credit: Aurora Trinity Collective, Ncheta, 2023. Glynn Vivian Art Gallery. Credit - Polly Thomas
Credit: Aurora Trinity Collective, Ncheta, 2023. Glynn Vivian Art Gallery. Credit - Polly Thomas
Credit: Aurora Trinity Collective, Ncheta, 2023. Glynn Vivian Art Gallery. Credit - Polly Thomas
Mae Aurora Trinity Collective yn cynnal sesiynau creadigol wythnosol yng Nghaerdydd sy’n lle diogel a gynhelir i fenywod, gan gynnwys menywod traws, pobl anneuaidd a phobl ryngryw. Ochr yn ochr â hyn, mae ganddynt arfer cydweithredol y maent yn creu eu gwaith eu hunain drwyddo. Mae llawer o artistiaid yn y grŵp wedi bod yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yng Nghymru, ac o ganlyniad mae eu gwaith yn adlewyrchu ymgysylltiad cyfoethog a gweithredol â chreadigrwydd diwylliannol. Mae gwaith y grŵp yn aml yn ystyried naratifau, traddodiadau a gwybodaeth bersonol.
Mae Ncheta yn ymgorffori tecstilau, ffotograffiaeth a sain amlsianel, mae ei natur amlsynhwyraidd yn adlewyrchu’r ffordd y mae aelodau’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd; er nad yw pawb yn rhannu’r un iaith, maent yn creu lleoedd ar gyfer ei gilydd, gan ddod o hyd i rythmau gwneud gyda’i gilydd.
Mae gwaith tecstilau 50 metr yn cael ei arddangos gyda sain amlsianel, a ddatblygwyd ar y cyd â Nasia Sarwar Skuse a Lauren Clifford-Keane, gyda lleisiau aelodau’r grŵp. Ochr yn ochr â hyn mae cyfres o ffotograffau a dynnwyd ar draeth Penarth sy’n dogfennu gweithrediadau perfformiadol a ddatblygwyd gydag Amak Mahmoodian ac a goreograffwyd ar y cyd â June Campbell Davies.
Yn ystod eu hamser ar y traeth, defnyddiodd y grŵp y gwaith ffabrig i ddiffinio lle ac archwilio cysylltiadau eu cyrff â’r dirwedd, gyda’r darn tecstilau mawr wedi’i lifo â llaw mewn lliwiau pinc, melyn ac oren, a’i ddefnyddio yn y cyd-destun hwn fel marciwr neu faner dieiriau.
Gwnaed y prosiect yn bosib drwy gymorth gan y Loteri Genedlaethol/ ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.