Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren a Theuluoedd sydd Newydd Gyrraedd
Medi 2023 – Ebrill 2024
Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri
Fel rhan o raglen gyhoeddus AM10, buom yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau i ddatblygu cyfres o brosiectau gyda chymunedau. Cafodd y rhain eu gwireddu mewn ymateb i’r themâu a’r syniadau a oedd yn bresennol yn yr ymarferion a’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos gan bob un o’r saith artist. Cymerodd y prosiectau sawl ffurf tra bod cymunedau hefyd wedi cyfrannu at ein cyfres o bodlediadau a chynhyrchu labeli deongliadol a ddangosir yn yr orielau.
Credit: Willow weaving workshop for newly arrived families at Oriel Davies Gallery. Credit: Oriel Davies Gallery
Credit: Willow weaving workshop for newly arrived families at Oriel Davies Gallery. Credit: Oriel Davies
Buom yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren a’r artist Nicky Arscott i arwain tri diwrnod i Deuluoedd sydd Newydd Gyrraedd yn y Drenewydd, mewn partneriaeth ag Oriel Davies mewn ymateb i waith yr artist AM10, Carolina Caycedo. Roedd y gweithdai’n cynnwys creu rafftiau helyg wedi’u gwehyddu a lansiwyd mewn digwyddiad ar yr Hafren ac ymweliad â’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2024. Yng Nghaerdydd, fe wnaethon nhw gwrdd ag aelodau Oasis One World Choir ac Aurora Trinity Collective. Mae’r grŵp yn y Drenewydd yn rhwydwaith agos a chefnogol o deuluoedd o Syria ac Affganistan yn bennaf, gyda rhai aelodau Cwrdaidd. Roedd y prosiect hwn â 42 o gyfranogwyr ac roedd yn cynnwys tri gweithdy, testun a gynhyrchwyd fel ‘para-label’, un ymweliad cyfnewid ac un daith gyhoeddus. Hefyd, yn ogystal â’r gweithgarwch cyhoeddus ar yr afon, perfformiodd Côr Hafren ail ddigwyddiad, sef cyngerdd cyhoeddus o ganeuon a ysbrydolwyd gan waith Carolina Caycedo ar 2 Rhagfyr yn y Drenewydd.
Please click images to enlarge
Partneriaid Cyflwyno
Partneriaid Craidd
Partneriaid Cyllido