Daear yn Dyst
gan Heledd C. Evans
Caiff y ddaear o’n cwmpas ei hystyried yn aml fel rhywbeth i’w meddiannu er lles ein buddiannau ein hunain. Deunydd i’w losgi wrth i ni fwrw ymlaen gyda’n bywydau. O safbwynt Gorllewinol, mae bodau dynol yn haeddu eu lle ar frig y gadwyn fod, gyda daear yn teilyngu safle is, heb bŵer, nag ystyr hanfodol. Nid oes cof gan ddaear. Mwd ydyw.
Ond nid felly y mae Dineo Seshee Bopape yn gweld pethau. Iddi hi, mae popeth yn gysylltiedig. Mae pob peth yn dylanwadu ac yn effeithio ar bob peth arall. Nid bodau ymdeimladol yw’r unig bethau sy’n cynnal cof – gall deunyddiau gofio hefyd. Weithiau mae’n weladwy. Pan fyddwn yn cyffwrdd â chlai, bydd ein holion bysedd yn cael eu gadael ar ôl. Pan fyddwn yn cerdded, cawn ein dilyn gan ein holion traed. Pan fyddwn yn sefyll ar dir, cynhelir ein pwysau gan ddaear. A phan fyddwn yn palu daear, mae’n gadael ei hôl, yno o dan ein hewinedd. Mae’r ddaear yn ein cofio ni. I fi, mae gwaith Dineo yn pwysleisio’r olion hyn, gan ddatguddio sut y mae bywyd yn gadael ei ôl – ac yn cael ei gynnal – ar y tir yr ydym yn byw arno.
Mae gan ddaear y potensial i’n gwahanu ni, drwy gyfrwng tiroedd ffisegol neu ffiniau a grëwyd gan ddyn. Ond mae ganddi’r potensial i’n cysylltu ni hefyd, ar draws cyfandiroedd, ar hyd amser. Mewn sgwrs a gynhaliwyd ar gyfer Artes Mundi 9 ar waith Dineo, soniodd yr artist a’r gweithiwr ym maes ynni, Evan Ifekoya, am gymryd daear o’u man geni yn Iperu, Nigeria, i gario gyda nhw. Mae darn o dir a oedd yn dyst i’w genedigaeth yn gydymaith iddynt drwy gydol eu bywyd, yn cysylltu eu gwreiddiau gyda’r eiliad bresennol. Yn olrhain eu taith.
Pan oeddwn i’n tyfu lan, ni wnaethom fentro dramor erioed. Roeddwn i’n 17 oed yn derbyn fy mhasbort cyntaf. Doeddwn i ddim cweit yn gallu dirnad realiti bodolaeth llefydd eraill – roeddwn i’n ymwybodol fod gwledydd eraill yn bodoli, ond doeddwn i ddim yn gallu cyfuno hynny gyda fy mhrofiad i o’r byd, gan ei fod yn ymddangos fel cysyniad oedd mor bell o fy nghyfnod a fy lle penodol yn y byd. Ffantasi oedd gwledydd eraill, lleoliadau haniaethol mewn stori. Fel un a oedd yn chwilfrydig ynglŷn â’r cysyniad o fynd dramor, buaswn i’n gofyn i’m ffrindiau a fyddai’n mynd ar wyliau i ddod â llond dwrn o ddaear yn ôl i fi o’u teithiau, er mwyn imi allu byw’n ddirprwyol drwy’r deunyddiau.
Gellir dehongli’r ddelwedd hon fel un barddonol, ond mewn gwirionedd, yr hyn ges i oedd twlpyn o wal Berlin wedi ei brynu mewn siop anrhegion, a rhywfaint o ludw o ochr hewl yn Awstria. Nid dyma’r cofroddion harddaf welodd llygad dynes erioed, ond roeddwn i ar ben fy nigon. Profiad cyffrous oedd derbyn y pethau hyn – tystiolaeth yng nghledr fy llaw o lefydd nad oeddwn i erioed wedi bod iddynt. Ond nid tystiolaeth yn unig mohonynt, roedd y llwch a’r sment yn addewid y gallwn innau fynd yno fy hun, rhyw ddydd. Roedd y ddaear graeanog o ochr y briffordd wedi dod o rywle heblaw Awstria, mwy na thebyg. A lluniwyd wal Berlin o friciau a grëwyd yn rhywle arall, cyn cael eu cludo yno. Nid oes unrhyw beth yn aros yn llonydd. Mae’r ddaear yn symud oddi tanom ac o’n hamgylch o hyd, yn ôl ei phŵer ei hun, neu yn ôl ein cynllun ninnau.
Ar gyfer ei gwaith Master Harmoniser, 2020, aeth Dineo ati i gasglu daear o safleoedd oedd yn gysylltiedig â’r gaethwasanaeth Traws-Iwerydd, gan greu cyfres o ddarluniau yn dynwared tonnau’r môr. I Dineo, mae’r tonnau hyn yn dwyn i gof y creithiau ar gefn Gordon, caethwas a ddihangodd o blanhigfa yn Louisiana ym mis Mawrth 1863 (1). O Casamance yn Senegal, i Afon y Mississippi yn New Orleans, yr hyn sy’n cysylltu’r casglebau hyn o ddaear yw eu bod wedi tystio i eiliadau ysgytwol o drawma. Pan gafodd pobl eu tynnu’n ddi-dostur o’u tiroedd, roedd y clwyf i’w deimlo yn y ddaear. Yn ei gweithiau, (Nder brick)…in process (Harmonic Conversions) 2020, a Gorree (cân): Thobella: harmonic conversions, 2020, mae Dineo yn defnyddio pridd o safleoedd sanctaidd yng Nghymru a’r Afon Hafren i baentio’r waliau a dechrau sgwrs rhwng yr hanesion hyn – sydd wedi eu gwreiddio mewn tir ymhell i ffwrdd – â’r tir maen nhw bellach yn trigo ynddo.
Os yw daear yn cofio ei gorffennol, tybed beth mae’n ei feddwl o’i phreswylfa bresennol? Tybed os yw daear Coedwig Achimota yn ymgomio â daear Virginia? Ydyn nhw mewn cymundeb gyda’r ddaear oddi tanynt? Mae rhywbeth telynegol am y ffaith y gall y straeon hyn uno mewn un lle. Ond ar y llaw arall, mae rhywbeth lletchwith am y ffaith eu bod yn preswylio yng Nghaerdydd, mor bell o gartref. Aflonyddwyd daear er mwyn gallu creu’r arddangosfa hon.
Mae’n bosib na fyddai pawb yn creu cysylltiad rhwng Cymru â’r gaethfasnach Traws-Iwerydd, ac er nad yw ei chlymau mor gadarn â dinasoedd fel Bryste a Lerpŵl, mae’r clymau’n dal yno. Mae Dr Chris Evans, awdur Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660 – 1850 yn egluro nad oedd gan Gymru ddigon o gyfoeth i ymwneud â’r gaethfasnach ar ei glannau ei hun, yn hytrach, aeth ati i gyfranogi drwy gyfnewid deunyddiau ac adnoddau. Yn Abertawe, cloddiwyd am fwyn Copr, a gafodd ei lunio’n fariau, ei anfon dros y môr, a’i ddefnyddio i fasnachu pobl gaeth. Yn Sir Drefaldwyn, cafodd gwlân bras a elwid yn ‘Welsh plains’ ei gynhyrchu’n rhad a’i allforio i gael ei droi’n ddillad i’r sawl oedd wedi eu caethiwo.
Yn y pen draw, cyfrannodd y gaethfasnach Traws-Iwerydd at Gymru’n dod yn genedl ddiwydiannol gyfoes. Nid ydym yn gwybod i ba le yr aeth y deunyddiau hyn. Ni wyddwn ychwaith beth fu pris dioddefaint y sawl a gafodd eu caethiwo yn sgil ymglymiad Cymru â chaethfasnach. Ond mae’r creithiau’n ddyfnach yn naear Cymru – dywed Dr Evans, yn addas iawn, ‘Dyma dirlun sydd â stamp caethwasiaeth arni’ (2). Mae’r ddaear yn cofio.
Nid llestr ar gyfer trawma yw’r ddaear, nid cynhwysydd goddefol yn unig. Mae ganddi hefyd y gallu aruthrol i wella pobl a phethau. Mae’n ffaith hysbys fod treulio amser ynghanol natur ac yng nghwmni’r ddaear yn fuddiol iawn i’n lles, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol (3). Yn y corff hwn o waith, defnyddia Dineo y ddaear fel deunydd hanfodol y gellir ei defnyddio i ddod â chyfnodau a lleoliadau cwbl annhebyg at ei gilydd, er mwyn iddynt drafod y ffyrdd y mae ein hanesion yn gorgyffwrdd. Mae hi’n ein gwahodd ni i wrando.
Mae Dineo yn helaethu’r hanesion hyn drwy drawsffurfiad. Daw daear yn fric, yn deyrnged i aberth menywod yr Nder; daw daear yn gynfas nerthol ar hyd waliau’r galeri; daw daear yn llinellau ar ben llinellau ar gannoedd o ddarluniau, sy’n olrhain atgofion creithiau a theithiau anfodlon. Ydy’r ddaear hon yn cofio ei tharddiad? Ei theithwyr? A yw’n teimlo’r tir yn newid oddi tani? A yw’n clywed ein presenoldeb?
Efallai mai dyna pam fod gwaith Dineo yn cael gymaint o effaith arnai – nid yw’n ceisio gorfodi’r ddaear ar hyd llwybr naratif twt, nid yw’n ceisio lleihau neu waredu’r teithiau y mae’r ddaear wedi eu profi, na cheisio tawelu’r cysylltiadau hyn sy’n newid o hyd. Mae’n ysgythru rhagor o lwybrau ac yn plethu rhagor o edau sy’n cysylltu deunyddiau a chyrff ar hyd amser a gofod. Mae wedi dod â daear o Capetown, De Affrica, 8,308 o filltiroedd o’i gartref gwreiddiol, i’r adeilad fu gynt yn cynnal Ysgol Uwchradd Treganna, gofod sydd bellach yn gartref i Chapter. Wrth i ni sefyll ymysg daear a dystiolaethodd i boen dynol enbyd, rydym yn agos at y rheiny a gafodd eu tynnu oddi wrth y ddaear honno. Ac rydym yn ymwybodol y bydd llawer mwy o bobl yn croesi llwybrau â’r ddaear hon eto, yn sefyll yn yr un man â ni. Bydd eraill yn gwneud cysylltiadau drwy’r ddaear.
2 Dr Chris Evans, Wales Online
3 Nature for Mental Health, Natural Resources Wales