Y Gân Isod

gan Durre Shahwar & Kit Edwards

Ar gyrion coedwig dywyll roedd sebra’n byw, ac roedd ganddo smotiau ac nid streipiau.

 

Un diwrnod, chwythodd rhywbeth rhyfedd ar awel fwyn y prynhawn.

 

Dechreuodd y sebra grynu’n anesmwyth wrth i blu glas-ddu, sgleiniog ddechrau tyfu o’i gwar.

 

Tyfodd y plu yn hirach ac yn hirach, gan ymestyn eu bysedd i ganopi’r coed uwchben.

 

Pan ddaeth y tyfu i ben, dechreuodd y plu wyro am i lawr i ffurfio clogyn dros gefn y sebra.

 

Roedd y plu’n drwm, ac yn wahanol i rai’r adar a oedd yn hedfan uwchben, roedden nhw’n edrych fel petaen nhw wedi’u gorchuddio â gwaddod olewog slic.

 

Doedd y sebra byth yn mentro i berfeddion y goedwig, gan ei bod ofn y gallai’r tywyllwch dudew beri niwed iddi.

 

Ond nawr roedd hi’n teimlo’n agored i niwed oherwydd y ffordd yr oedd ei phlu’n disgleirio yn y golau ac roedd yn deall nad oedd cael ei gweld yn sicrhau diogelwch bob amser. Felly troediodd tuag at y tywyllwch.

 

Gyda’r nos fel caddug, crwydrodd y sebra, wedi drysu ac yn chwilio am atebion.

 

Daeth at lyn ynghudd yng nghanol y goedwig.

 

Wrth i’r sebra yfed o ymyl y llyn, gwelodd fenyw’n ymddangos o dan ei hadlewyrchiad.

 

Nid oedd gan y fenyw ymylon clir. Roedd hi’n crynu gyda symudiad y creaduriaid a oedd yn nofio oddi tani, roedd ei choesau’n toddi i ddyfnderoedd y llyn.

 

Heb eiriau, siaradodd â’r sebra:

“Cymer gam i mewn i’r dŵr,” meddai.

 

Roedd y sebra yn teimlo rhyw fath o gysylltiad â’r fenyw hon. Teimlad oedd yn blodeuo o’r tu mewn, ei bod hi hefyd yn fod dyfrllyd.

 

Roedd ei charnau’n llithro i’r llyn arian, gan droi ei choesau smotiog yn las wrth iddynt gamu ymlaen.

 

Gyda phob cam, teimlai dynfa ysgafn y dŵr, ac ymchwydd ei phlu symudliw.

 

O dan flanced oer y llyn ymledodd ei phlu ar draws ei wyneb fel les gan ei gyrru ymlaen mewn tonnau llesmeiriol.

 

A hithau wedi suddo o dan y glas, gwelodd y sebra smotiog syrcas o greaduriaid tonnog rhyfedd.

 

Creaduriaid â choesau wedi’u llurgunio fel gwinwydd, a chydag adenydd a oedd yn goleuo, gyda chynffon o flodau tanllyd yn eu dilyn.

 

Roedd y rhain yn greaduriaid chwilfrydig a oedd yn byw eu bywydau’n dawnsio o dan wyneb llonydd y llyn.

 

Wrth iddynt ddawnsio, sylwodd fod eu symudiadau’n efelychu synau tyner, melodaidd telyn.

 

Roedd y nodau’n swnio’n syndod o gyfarwydd i’r sebra, fel rhywbeth roedd hi wedi’i glywed mewn breuddwyd.

 

Sylwodd fod gan rai o’r creaduriaid smotiau glas yn union yr un fath â hi, a oedd yn goleuo mewn rhythmau harmonig gyda’r gerddoriaeth.

 

“Deffra,” meddai’r sebra wrthi hi ei hun, gan gicio’r pridd o wely’r llyn, am ei bod yn argyhoeddedig ei bod hi’n cysgu.

 

Ond gwrthodai’r glas a’i hamgylchynai gilio, a chafodd ei gyrru ymlaen yn nhonnau ei phlu a deimlai fel pe bai ganddynt eu meddwl eu hunain.

 

Roedd y cyrff ymgordeddog a’r nodau crynedig wedi hoelio sylw’r sebra i’r fath raddau fel mai prin y sylwodd ar y cysgod tywyll, fel ceg, a oedd fel rhith o’u blaenau yn nyfnderoedd y llyn.

 

Roedd yn edrych fel llain yr oedd y lleuad ofn ei droedio.

 

A allai fod yn gwmwl? Ewyn o silt? Neu ddrws i arall fyd?

 

Dechreuodd y sebra smotiog gicio ei charnau’n wyllt mewn braw, gan geisio gwrthsefyll llif y dŵr a nofio’n ôl i fyny tuag at y golau.

 

Ond roedd ei phlu fel hwyl llong, yn ei gwthio tuag at y duwch.

 

Teimlai ei chalon yn curo yn ei chlustiau a gwyn ei llygaid yn ehangu y tu hwnt i’w terfyn wrth iddi lithro garn wrth garn i’w goflaid dywyll.

 

Ar ôl i’w chorff gael ei lyncu’n llwyr, dechreuodd curiad ei chalon adleisio o’i chwmpas ym mhobman.

 

Roedd hi’n gwybod nad oedd hi’n agos at y gwaelod mwyach wrth iddi geisio taro ei charnau yn erbyn y ddaear.

 

Sylweddolodd mewn gwirionedd, na allai deimlo ei choesau wrth ochr ei gilydd, na phwysau ei chlogyn plu.

 

Roedd hi’n arnofio heb goesau yn y tywyllwch.

 

Ond yr hyn a’i synnodd, wrth iddi chwilio am deimladau o fraw neu arswyd, oedd nad oedd yn teimlo dim heblaw ei bod gartref.

 

Y cyfan a’i hamgylchynai oedd curiad tyner mil o guriadau calon.

 

Ai sŵn ei chalon hi ydoedd? Neu ai sŵn bywyd o’i chwmpas ydoedd? Nid oedd o bwys gan eu bod i gyd yn un yn y tywyllwch.

 


 

Mae Durre Shahwar yn awdur ac ymchwilydd sydd â diddordeb mewn testunau, delweddau a themâu gwrthdroadol. Hi yw cyd-sylfaenydd ‘Where I’m Coming From’, grwp meic agored cymunedol sy’n cynnwys awduron lliw yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn amryw o gylchgronau a blodeugerddi, yn arbennig: Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Homes For Heroes 100 (Festival of Ideas). Mae Durre wedi bod yn rhan o Hay Festival Writers at Work ac BBC Writersroom Welsh Voices. Ar hyn o bryd mae Durre yn gwneud ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio tuag at ei llyfr cyntaf o hunangofiant am hunaniaeth, hil, ymfudo. @Durre_Shahwar

 

 

 

Mae Kit Edwards yn awdur a gweithiwr celfyddydau sydd ar hyn o bryd yn cwblhau’r MA yn Contemporary Art Theory yn Goldsmiths UoL. Mae hi wedi cyhoeddi adolygiadau, traethodau a ffuglen ar gyfer cyhoeddiadau fel Sticky Fingers’ FDBNHLLLTTFHORROR, Femme Art Review, ac This is Tomorrow. Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn Artes Mundi fel Cynorthwyydd Rhaglenni Cyhoeddus. @Kitelizaedwards