Carolina Caycedo

Arddangos yn Oriel Davies a hefyd Chapter

Mae Carolina Caycedo (g 1978, Llundain) yn artist amlddisgyblaethol o Golombia sy’n byw yn Los Angeles.

Credit: Carolina Caycedo - Credit Ruben Díaz

Mae ei gwaith amlgyfrwng daearyddol anferth yn wrthrychau celf a hefyd yn byrth i drafodaethau ehangach ynglŷn â sut rydym yn trin ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Drwy ei hymarfer stiwdio a gwaith maes gyda chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan seilwaith mawr a phrosiectau echdynnu eraill, mae’n gwahodd gwylwyr i ystyried cyflymder anghynaladwy twf dan gyfalafiaeth a sut y gallem groesawu gwrthsafiad a chefnogaeth. Mae proses a chyfranogi yn ganolog i ymarfer Caycedo, ac mae’n cyfrannu tuag at ail-greu cof amgylcheddol a hanesyddol fel gofod sylfaenol ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Gan ddefnyddio gwybodaeth o epistemolegau Brodorol a ffeministaidd, mae’n wynebu rôl yr olwg drefedigaethol a fu’n preifateiddio a dad-feddiannu tir a dŵr. 

 

Mae ei harddangosfeydd amgueddfa unigol yn ddiweddar yn cynnwys “Land of Friends”, Canolfan Celfyddyd Gyfoes Baltic, Gateshead (2022–23); “Distressed Debt”, ICA San Diego (2022); “Projects: Carolina Caycedo and David de Rozas”, MoMA, Efrog Newydd (2022); “From the Bottom of the River”, MCA Chicago (2020–21); “Cosmotarrayas”, ICA Boston (2020); “Wanaawna, Rio Hondo, and Other Spirits”, Amgueddfa Gelf Orange County (2019–20); a “Care Report”, Muzeum Sztuki, Łódź, Gwlad Pwyl (2019–20). 

 

Mae’r arddangosfeydd grŵp yn cynnwys “Thinking Historically in the Present”, Arddangosfa Eilflwydd Sharjah 15, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig (2023); a Trondheim Kunsthall, Norwy; “Territories of Waste”, Museum Tinguely, Basel; “Following Water”, Kunsthalle Bielefeld; “Back to Earth”, Orielau Serpentine, Llundain; a “rīvus”, 23ain Biennale Sydney, Awstralia (i gyd yn 2022), ymhlith llawer o rai eraill. 

 

Mae Caycedo yn un o gymrodorion Artistiaid yr Unol Daleithiau yn 2023 ac yn Artist Preswyl Sefydliad Ymchwil Getty 2023–24. Roedd yn un o Gymrodorion cyntaf Artistiaid LladinX yr Unol Daleithiau yn 2021–22 ac yn un o Gymrodorion cyntaf y Gororau yn 2020–22 yn y Ganolfan Dychymyg yn y Gororau ym Mhrifysgol Talaith Arizona (ASU) a Chanolfan Gelfyddydau a Gwleidyddiaeth Vera List yn The New School. 

 

Cynrychiolir Carolina Caycedo gan Commonwealth and Council, LA ac Instituto de Visión, Bogotá.


Please click images to enlarge

Taith 3D Carolina Caycedo

Mae Naomi Rincón Gallardo yn gweithio ym maes ffeministiaeth ddad-drefedigaethol a beirniadaeth cwiar lliw i ddatblygu gweithiau beirniadolfytholegol sy’n ymdrin â chreu gwrth-fydoedd dyfaliadol mewn lleoliadau neodrefedigaethol. Mae’r Trioleg Tzitzimime, sy’n cael ei gyflwyno yn Chapter, yn cynnwys gweithiau fideo ynghyd â dyfrlliwiau a cherfluniau cysylltiedig. Duwiesau benywaidd yn y cosmos Mesoamericanaidd yw’r Tzitzimime, yn cael eu hofni oherwydd eu gallu i ddod i lawr i’r Ddaear a difa dynion yn ystod diffyg ar yr haul, pan dybid y byddai tywyllwch yn trechu am byth. Mae Rincón Gallardo yn cyfuno estheteg DIY swreal, mythau Mesoamericanaidd wedi’u bastardeiddio, cerddoriaeth, perfformiadau, propiau cerfluniol wedi’u gwneud â llaw a hiwmor i gynhyrchu chwedlau grymus mewn ffyrdd afieithus annormadol. 

At The Table gyda Carolina Caycedo

YouTube player

Fel rhan o gyfres At The Table, cyfarfu Carolina Caycedo mewn sgwrs â Liv Brissach, Curadur Amgueddfa Gelf y Northern Norwegian Art Museum, yr artist gweledol Bárbara Santos a’r hwylusydd a’r tywysydd gwylltir Fern Smith. Cyflwynwyd y gyfres At The Table mewn partneriaeth â British Council Cymru.

Cyfweliad gydag ArtReview

Carolina Caycedo, Installation view at Oriel Davies Gallery, Artes Mundi 10, 2023-24. Photography: Stuart Whipps

Darllenwch y cyfweliad ArtReview gyda Carolina Caycedo yma.

 

Mae ArtReview yn bartner cyfryngau i Artes Mundi 10.