Carrie Mae Weems

Un o’r artistiaid cyfoes mwyaf dylanwadol o America sy’n gweithio heddiw yw Carrie Mae Weems, sydd, drwy ei gwaith dros dri deng mlynedd, wedi ymchwilio i a chanolbwyntio ar y materion difrifol sy’n wynebu Americanwyr Affricanaidd, yn enwedig perthnasoedd teuluol, hunaniaeth ddiwylliannol, rhywiaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol a chanlyniadau grym. Yn fwy diweddar, mae’n gweld ei gwaith yn siarad y tu hwnt i’r profiad Du i gwmpasu cymhlethdod y profiad dynol ehangach a chynhwysiant cymdeithasol. Er ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda ffotograffiaeth, mae ei chorff gwaith cymhleth ac arobryn yn defnyddio delweddau drwy osodwaith, perfformio a fideo, gan symud o’r dogfennol i greu lluniau a drefnir yn ofalus i adeiladu naratifau. Yn aml, mae wedi defnyddio ei hun yn ei gwaith, gan ddefnyddio’r ddelwedd luniedig fel cyfrwng i gwestiynu syniadau ac fel modd i gynrychioli delweddau o gymunedau duon, yn arbennig merched, sydd yn aml wedi’u cau allan o gael eu cynrychioli yn y brif ffrwd. Mae’r cyrff hyn o waith ffotograffig wedi estyn y cyfleoedd ar gyfer merched duon eraill o artistiaid.

Credit: Carrie Mae Weems. Photo: Mickalene Thomas

Arddangosfa Artes Mundi 9

 

Er ei bod yn fwyaf adnabyddus am weithio gyda ffotograffiaeth, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cyflwynir gosodiad cymhleth sy’n defnyddio delweddau sy’n tynnu o’r ddogfen i greu lluniau wedi’u llwyfannu sy’n llunio naratifau. Mae Repeating the Obvious yn ailadrodd ar wahanol feintiau ddarlun ethereal o berson ifanc dan gwfl, gan beri i’r gwylwyr ymdrochi yn y môr o ddelweddau. Mae detholiad o ffotograffau o’r gyfres Constructing History yn ail-greu eiliadau eiconig o’r 1960au a gynhyrchwyd yn amlwg mewn amgylchedd stiwdio. Mae’r eiliadau a ddewiswyd yn ymwneud â thrais a chwyldro cymdeithasol ac yn dangos aflonyddwch ar lwybr hanes a meddwl yr 20fed Ganrif. Gyda phobl ifanc yn actio adegau nodweddiadol enwog o fraddlofruddio, tystio a galaru, mae ystyr dwfn yn datblygu yn y theatrigrwydd sydd wedi’i lwyfannu.

 

Ochr yn ochr â’r gweithiau presennol hwn a ddewiswyd, mae gwaith aml-ddelwedd newydd, The Push, The Call, The Scream, The Dream, a ddatblygwyd fel ymateb i farwolaeth ddiweddar y gwleidydd Americanaidd a’r arweinydd hawliau sifil, John Lewis yn 2020, a’r newidiadau a’r sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol ehangach ym mhedwar ban byd. Defnyddia Weems y ddelwedd a grëir fel cyfrwng ar gyfer cwestiynu syniadau a dderbyniwyd ac fel modd o gynrychioli delweddau o’r cymunedau hynny, yn enwedig Pobl Dduon a menywod, a eithrir yn aml o gynrychiolaeth brif ffrwd. Yn Chapter, mae cyfres o hysbysfyrddau a phosteri ar raddfa fawr o’i hymgyrch gelfyddyd gyhoeddus ddiweddar a pharhaus, RESIST COVID TAKE 6! sy’n canolbwyntio ar y pandemig byd-eang sy’n parhau i effeithio ar bob un ohonom, ac yn arbennig ei effaith ar bobl groenliw. Yma mae delwedd a thestun yn cyfuno i gyfleu dyfodol mwy gobeithiol.


Oriel Delweddau

Please click images to enlarge

Bywgraffiad

Mae Carrie Mae Weems (g 1953, UDA; byw a gweithio yn Syracuse, Efrog Newydd) wedi cymryd rhan mewn sawl arddangosfa unigol a grŵp yn amgueddfeydd mawr y byd, gan gynnwys y Metropolitan Museum of Art a’r Frist Center for Visual Art, ac yn fwy diweddar, aeth ei harddangosfa fawr ar daith ledled yr Unol Daleithiau cyn y sioe olaf yn y Solomon Guggenheim Museum Efrog Newydd. Mae Weems wedi derbyn llu o wobrau, grantiau a chymrodoriaethau, gan gynnwys y Prix de Roma o fri, The National Endowment of the Arts, The Alpert, The Anonymous was a Woman, a The Tiffany Awards. Yn 2012, cyflwynwyd un o Fedalau’r Celfyddydau cyntaf Adran Wladol yr Unol Daleithiau i Weems i gydnabod ei hymrwymiad i raglen Celf mewn Llysgenadaethau yr Adran Wladol. Yn 2013 derbyniodd grant ‘Genius’ MacArthur yn ogystal â gwobr cyflawniad oes y Congressional Black Caucus Foundation.  Cynrychiolir Carrie Mae Weems gan Jack Shainman Gallery, Efrog Newydd a Galerie Barbara Thumm, Berlin.