Prosiect Trebanog: y Stori Hyd yn Hyn

Ers mis Chwefror 2016, mae Celfyddyd ond Nid Felly, prosiect partneriaeth rhwng Trivallis, Plant y Cymoedd ac Artes Mundi, yn cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a chymuned Trebanog.

Credit:

Credit:

Credit:

Ar y dechrau, defnyddiwyd Ysgol Fabanod Rhiw-garn fel canolfan i edrych ar ddatblygu saf e’r Dingle, ond ers hynny mae wedi troi’n ymchwiliad i’w photensial ei hun fel canolfan gymunedol greadigol a cheisiwyd yn llwyddiannus am brydles f wyddyn yn y lle cyntaf.

 

Cychwynnodd Prosiect Trebanog gyda’r gymuned yn mis Marwth wrth ailagor yr Ysgol am wythnos o weithdai a digwyddiadau am ddim. Dan arweiniad yr artist, Owen Griffiths, Plant y Cymoedd ac Artes Mundi, roedd yr ysgol yn agored o 10yb tan 8yh bob dydd.

 

Yn sgil llyddiant yr wythnos gychwynnol hon, aeth y prosiect yn ei f aen i sicrhau defnydd o’r ysgol am f wyddyn arall i barhau ei waith gyda’r gymuned. Lansiwyd y cyfnod hwn gydag Ysgol Haf dros bythefnos ym mis Awst a pharhaodd gyda sesiynau cawl a chrefft wythnosol i oedolion a phlant drwy gydol mis Hydref a Tachwedd.

 

A hyd yn hyn… am brofiad anhygoel! Bob tro y byddwn yn agor y drysau, bydd plant, rhieni a mam-gas a thad-cus yn ciwio’n barod am weithgareddau’r dydd.

 

Mae pobl wedi dod i ddysgu sut i daf u potiau, i wneud modelau a ffeuau, chwarae gemau, rhannu bwyd, adeiladu popty pizzas, pobi bara a pizza, dysgu sut i rapio, rhannu amser gyda’i gilydd a dosbarthu bara i’r gymuned ehangach.

 

Rhan bwysig o’r gweithgareddau yw cydweithio ag artistiaid gwadd i feddwl am gymuned Trebanog a sut gall ddod at ei gilydd i wneud penderfyniadau. Ymhlith yr artistiaid sydd wedi cymryd rhan yn y broses hyd yn hyn mae’r artistiad rhyngwladol: Nils Norman o Lundain, Kristian Byskov a Marga del Carmen o Gopenhagen a Lucy a Jorge Orta o Baris a llawer o artistiaid o Gymru.

 

Mae’r gymuned wedi dysgu sgiliau newydd, wedi dod at ei gilydd ac wedi rhannu sgyrsiau wrth edrych ar y Dingle, Trebanog a’r ysgol.

 

Am fwy o wybodaeth am y prosiect:

Twitter: #thetrebanogproject
www.instagram.com/thetrebanogproject
www.itsartbutitsnot.wordpress.com

Yn ystod y gweithgareddau hyd yma, cafwyd 52 o sesiynau, gyda thros 140 o bobl yn mynychu’r gweithgareddau. Bu pobl yn ymgymryd â rolau gwirfoddol yn y prosiect gan gynnwys cyfrifoldeb am lanhau, helpu gyda’r coginio, tacluso a gofalu am blant.

 

Yn sgil gweithgareddau’r Pasg a’r Haf, gwahoddwyd cyfranogwyr i fyfyrio ar eu profiadau.

 

I ddechrau, gofynnwyd i bobl ddweud un gair i esbonio pam yr hoffent barhau i gydweithio â Celfyddyd ond Nid Felly yn yr ysgol. Ymhlith yr ymatebion cafwyd: dyfodol, sgwrs, ymgysylltu, gorfoleddus, y plant, gweithgareddu, hyder, cymuned, cymdeithasu, iechyd, peidio â bod yn ynysig.

 

Yn ystod y sesiwn fyfyrio, nododd y cyfranogwyr fod y gwaith yn yr ysgol yn wahanol i weithgareddau yng Hghanolfan Gymuned Waun Wen a Chymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Trebanog oherwydd ei fod yn cynnig rhywle i ddod ynghyd fel teulu o gwmpas diddordebau cyffredin a gweithgareddau.

 

Yn ôl un preswylydd a rhiant, “Rwy’n byw mewn stryd a ddim yn gweld neb, felly mae wedi gwneud gwahaniaeth oherwydd eich bod chi’n dod at eich gilydd ac yn y pendraw yn siarad gyda’ch gilydd as mae hynny’n gwneud byd o wahaniaeth i sut rydych chi’n teimlo. Fe ddaeth â  fi mas o’r tŷ  hefyd a ‘wnaeth e wahaniaeth mawr i’r ferch.”

 

Sylw rhiant a mam-gu/tad-cu arall oedd, “Fydden ni ddim wedi gwneud dim byd tebyg i be wnaethon ni fan hyn heb y prosiect. Dyma’r tro cynta rydyn ni wedi gwneud unrhyw beth fel teulu cyfan heb bennu lan yn cwympo mas.”

 

Ac wrth drafod yr effaith ar y gymuned, sylw mam-gu-tad-cu arall oedd, “Dw i wedi gweld gwahaniaeth gyda rhai o agweddau’r plant lan fan hyn. Lle o’r blaen… maen nhw wedi bod yn hy gyda ni, os byddwch chi’n gofyn  iddyn nhw nawr, maen nhw’n dweud ‘O,ie iawn’.”

 

Soniodd cyfranogwyr am:
Newidiadau ynglŷn â sut roedden nhw’n teimlo amadanyn nyw eu hunain
Coginio mwy o brydau bwyd
Pobi bara
Siarad â’u cymdogion yn fwy
Meddwl y gallen nhw wneud pethau fel teulu

 

Mae pobl wedi nodi yr hoffent:
Barhau i ddysgu sgiliau a chrefftau newydd
Dysgu i goginio a chael gwybod am ryseitiau newydd
Cael hyd i fforff o wneudpethau a’u gwerthu mewn marchnadoedd lleol
Dal ati i gael gweithgareddau i’r plant