Ragnar Kjartansson

The Sky in a Room

25 Mehefin – 3 Gorffennaf 2022
Eglwys y Santes Fair Magdalen, Tanworth-in-Arden

22 Medi - 5 Hydref 2020
San Carlo al Lazzaretto, Milan

3 Chwefror - 11 Mawrth 2018
Amgueddfa Cymru, Caerdydd

Mae Ragnar Kjartansson, artist o Wlad yr Iâ, yn defnyddio hanes ffilm, cerddoriaeth, theatr, diwylliant gweledol a llenyddiaeth i greu gosodweithiau fideo, perfformiadau maith (sy’n para oriau weithiau), lluniau a phaentiadau. Daw dulliau llwyfannu yn hollbwysig yn ymdrech yr artist i gyfleu gwir emosiwn a chynnig profiad gwirioneddol ar gyfer y gynulleidfa.

 

Mae gwaith chwareus Kjartansson yn llawn o adegau unigryw: daw’r dramatig a’r cyffredin benben â’i gilydd mewn ffordd gofiadwy.

Credit: The Sky in a Room at St Mary Magdelene Church, Tanworth-in-Arden. Courtesy of Ikon, photo by Jack Nelson

Credit: Ragnar Kjartansson, The Sky in a Room (2018). Performer, organ and the song Il Cielo in una Stanza by Gino Paoli (1960). Originally commissioned by Artes Mundi and Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and acquired with the support of the Derek Williams Trust and Art Fund. Installation view as presented and produced by Fondazione Nicola Trussardi at Chiesa di San Carlo al Lazzaretto, Milan. Courtesy of the artist, Luhring Augustine, New York and i8 Gallery, Reykjavik Photo: Marco De Scalzi

Credit: Ragnar Kjartansson: The Sky in a Room, 2018. Performer, organ and the song "Il Ceilo in una Stanza" by Gino Paoli (1960). Courtesy of the artist, Luhring Augustine, New York and i8 Gallery, Reykjavik. Photo: Hugh Glendinning.

Yn dilyn ei gyfranogiad yn arddangosfa Artes Mundi 6, dyfarnwyd Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams i Kjartansson a chomisiynwyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth gan Art Fund, i ddatblygu darn newydd, The Sky in a Room.

 

Dros gyfnod o bum wythnos, am bum awr y dydd, gwelodd y perfformiad agoriadol gyfres gylchol o organyddion/lleiswyr yn perfformio cân boblogaidd 1960 gan Gino Paoli, Il Cielo In Una Stanza (The Sky in a Room) ar organ Sir Watkins Williams Wynn 1774 yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Fel rhan o’r gwaith, symudwyd yr holl baentiadau, gwrthrychau a dodrefn addurnol o oriel Celf ym Mhrydain 1700-1800, gan adael dim ond yr organ siambr o’r 18fed ganrif yng nghanol yr ystafell (mae cofnod o’r perfformiad ar gael
yma).

 

Yn 2020 cynhaliwyd The Sky in a Room yn eglwys San Carlo al Lazzaretto ym Milan – cafwyd y syniad yn sgil cyfnod clo Covid-19 a effeithiodd ar filiynau o Eidalwyr, yn arbennig dinasyddion Lombardi.

 

Yn 2022 cynhaliwyd The Sky in a Room yn Eglwys y Santes Fair Magdalen yn Tanworth-in-Arden, yng nghanol cefn gwlad Swydd Warwick. Mae’r lleoliad yn gwbl briodol ar gyfer gwaith Kjartansson – sy’n cael ei nodweddu gan ymdeimlad o’r felan – gan mai dyma hefyd y man lle mae’r canwr-gyfansoddwr Nick Drake wedi’i gladdu.

 

Gwnaethpwyd y comisiwn gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Gronfa Gelf.