Artes Mundi 6

24 Hydref 2014
- 22 February 2015

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd,
Chapter a Ffotogallery

Roedd y rhestr fer ar gyfer Artes Mundi 6 yn cynnwys premier y byd o A Complicated Relationship between Heaven and Earth or When We Believe (2014) gan Theaster Gates, sy’n cynnwys Malinese Boli, sef gafr Fasonaidd ar feic un olwyn.

Credit:

Credit:

Credit:

Cyflwynodd Renzo Martens y gwaith cyntaf gan y Sefydliad Gweithgareddau Dynol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo; hunanbortreadau siocled wedi’u hargraffu gyda pheiriant 3D, a wnaed gan weithwyr planhigfeydd y Congo. Cyflwynodd Carlos Bunga osodiad cardboard mawr ar gyfer safle penodol o’r enw Exodus (2014). Mae film Omer Fast, Continuity (2012) yn archwilio realiti a delfryd yn Rhyfel Affgan America. Mae delweddau Sanja Iveković, sef Gen XX a Women’s House (Sunglasses) a’i gosodwaith The Disobedient (The Revolutionaries) yn herio ffasgaeth a rhagfarn ar sail rhyw yn Ewrop yr 20fed ganrif. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys premier y DU o osodwaith fideo Ragnar Kjartansson, The Visitors (2013) sy’n ystyried y ffin denau rhwng gwirionedd a pharodi yn y diwylliant poblogaidd. Yn ffilm Sharon Lockhard, Exit (2008), ceir cofnod o weithwyr Gweithfeydd Haearn Bath ym Maine, Unol Daleithiau America. Mae Renata Lucas yn dangos gosodwaith newydd o’i llawr pren haenog rhyngweithiol Falha (Methiant, 2003 parhaus). Dangosodd Karen Mirza a Brad Butler The Unreliable Narrator (2014) a hefyd You are the Prime Minister (2014), sef dau osodwaith newydd sy’n defnyddio neon, fideo a geiriau i ymateb i’r bomio ym Mumbai a rôl braint Brydeinig yng ngwrthdaro’r Dwyrain Canol.

Detholwyr

Adam Budak, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Arddangosfeydd, Oriel Gelf Genedlaethol Prâg

 

Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr a Churadur, Amgueddfa Haus Konstruktiv, Zurich

Beirniaid

JJ Charlesworth, Beirniad celf llawrydd a Golygydd Cyswllt Art Review

 

Inti Guerrero, Beirniad celf a churadur, Hong Kong

 

Elise Atagana, Curadur annibynnol, Paris

 

Alia Swastika, Curadur ac ysgrifennydd, Yogyakarta 

 

Amanda Farr, Cyfarwyddwr, Oriel Davies, Y Drenewydd


Gwobrau

Theaster Gates

Enillydd Gwobr Artes Mundi 6 oedd Theaster Gates, artist o Unol Daleithiau America. Dewisodd hollti’r £40,000 ymhlith y rhai eraill a oedd ar y rhestr fer.

Credit:

Mae gwaith Theaster Gates yn cynnwys cerfluniau, gosodweithiau, perfformiadau ac ymyriadau trefol sy’n anelu at bontio’r bwlch rhwng celfyddyd a bywyd. Mae’n gweithio fel artist, curadur, cynllunydd trefol a hwylusydd, a nod ei brosiectau yw ysgogi’r arfer o greu cymunedau diwylliannol trwy weithredu fel sbardun ar gyfer ymgysylltu cymunedol a all arwain at newid gwleidyddol a gofodol. Mae Gates wedi disgrifio’i ddull gweithio fel “beirniadu trwy gydweithredu” – yn aml gyda phenseiri, ymchwilwyr a pherfformwyr – er mwyn creu gweithiau sy’n ymestyn y syniad o’r hyn a ystyriwn, fel arfer, yn arferion gweledol.


Artistiaid

Artes Mundi 6

Carlos Bunga

Artes Mundi 6

Omer Fast

Artes Mundi 6

Sanja Iveković

Artes Mundi 6

Ragnar Kjartansson

Artes Mundi 6

Sharon Lockhart

Artes Mundi 6

Renata Lucas

Artes Mundi 6

Renzo Martens and the Institute for Human Activities

Artes Mundi 6

Karen Mirza and Brad Butler