Dineo Seshee Bopape

Mae gwaith cynhwysfawr Dineo Seshee Bopape yn ymdrin â syniadau cymdeithasol-wleidyddol ynglŷn â’r cof (o’r personol i’r torfol, yr hysbys a’r anhysbys), adrodd straeon a chynrychiolaeth fel ffurfiau cydgysylltiedig. Mae ei gwaith yn aml yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau cyffredin ac elfennol megis pridd, brics a choed, gyda gwrthrychau hapgael a delweddau archifol, fideo a sain i ddatblygu gosodweithiau swmpus a grymus. Mae’r rhain yn dwyn at ei gilydd y nefolaidd a’r daearol, y corfforol a’r metaffisegol, y personol a’r torfol. Er enghraifft, yn ei gwaith i Fiennale Berlin yn 2018, roedd golau oren yn trochi ystafell islawr llawn gwrthrychau ar chwâl fel malurion, ochr yn ochr â fideos gan gynnwys rhai’n dangos trais rhywiol yn erbyn gwragedd duon a ffilmiau o chwalfa feddyliol Nina Simone ar lwyfan. Fe greodd awyrgylch pwerus, llawn tyndra a rhithbair bron o anghysur ac anesmwythyd.

Credit: Dineo Seshee Bopape. Photo: Maksym Biousov

Arddangosfa Artes Mundi 9

 

Mae Bopape wedi cynhyrchu cyfres o waith newydd y mae ei osodiad yn cysylltu lleoliadau yn Affrica ac UDA fel Coedwig Achimota, Accra, Ghana, afon James River, Richmond, Virginia ac afon Mississippi yn New Orleans . Mae clai a phridd o’r lleoedd hyn yn uno â chlai a phridd o’r Île de Gorée oddi ar arfordir Senegal yn Dakar – sy’n enwog fel man gadael yn Affrica ar gyfer masnach gaethwasiaeth Môr yr Iwerydd – i greu Master Harmoniser, casgliad o dros 1,000 o luniau.

 

Mae’r gwaith hwn yn gweithio ochr yn ochr â Nder brick) ___ in process (Harmonic Conversions) i weithredu fel teyrnged i’r aberth a brofodd menywod Nder yng Ngogledd Senegal er mwyn osgoi cael eu cymryd fel caethferched. Cyflwynir pridd, gwrthrychau, lluniadau a sain mewn mannau gyda waliau wedi’u gorchuddio â golchiadau pridd o safleoedd sanctaidd Cymru. Wedi’i gyflwyno yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter, mae Gorree (cân): Thobela: harmonic conversions yn waith sain sy’n rhannol alargan, yn rhannol atgof, yn rhannol gydnabyddiaeth i gyndeidiau. Gan gysylltu lle, hanes ac yn ymestyn ar draws amser, ar y cyfan mae’r gweithiau hyn yn dwyn ynghyd y nefoedd a’r ddaear, y corfforol a’r metaffisegol, y personol a’r cyfunol, i leoliad i gydnabod ac adfer, gan greu awyrgylch grymus sy’n cwestiynu’r hyn sy’n mynd yn angof a’r hyn y dylid ei gofio.


Oriel Delweddau

Please click images to enlarge

Bywgraffiad

Ganed Dineo Seshee Bopape ym 1981, ar ddydd Sul.

 

Pe bai’n hanu o Ghana, ei henw fyddai akosua, neu akos o’i dalfyrru. Yn ystod blwyddyn ei genedigaeth, cofnodwyd oddeutu 22 o gorwyntoedd ym Môr yr Iwerydd; dyna pryd y digwyddodd terfysgoedd Brixton; roedd y gân “Endless Love” yn boblogaidd ar y radio; anafwyd dau berson pan ffrwydrodd bom mewn canolfan siopa yn Durban; bu farw Bobby Sands; lansiwyd MTV; fe wnaeth y Boeing 767 ei thaith awyr gyntaf; cyflawnodd Umkonto We Sizwe ymosodiadau tanddaearol niferus yn erbyn y wladwriaeth apartheid. Cafwyd daeargryn a laddodd 150 o bobl yn Tsieina; cynhaliwyd Cynhadledd Ryngwladol o Gyrff Anllywodraethol ar Boblogaethau Brodorol a’r Tir yng Ngenefa; cafodd yr enw ‘rhyngrwyd’ ei grybwyll am y tro cyntaf; etholwyd Hosni Mubarack yn llywydd yr Aifft; bu coup d’etat yn Ghana; priododd y Dywysoges Diana o Brydain â Charles; bu farw Bob Marley; ymosododd gwladwriaeth apartheid De Affrica ar Angola; cafodd AIDS ei adnabod/creu/enwi; cyhoeddodd Salman Rushdie ei lyfr “Midnight’s Children”; darganfuwyd olion y Titanic; ymddeolodd Muhammad Ali; adnewyddwyd gorchmynion alltudiaeth Winnie Mandela am bum mlynedd arall; ganwyd y baban tiwb profi cyntaf, aeth Thomas Sanakara i’w gyfarfod cabinet cyntaf ar gefn beic; cafodd Machu Pichu ei ddynodi’n safle treftadaeth; bu farw ei mam-gu ar ochr ei thad oherwydd effaith dementia; yn y flwyddyn arbennig honno bu miliynau o bobl yn crio dagrau (o bob math), yn siarad geiriau mewn llawer o ieithoedd a biliynau o bobl yn breuddwydio…. parhaodd rhai pethau, trawsnewidiwyd rhai pethau, daeth eraill i ben(?), bryd hynny mae’n debyg bod poblogaeth ddynol y byd oddeutu 4.529 biliwn… heddiw mae hi (Bopape) yn un o blith 7 biliwn – sy’n meddiannu ansoddeiriau lluosog. Efallai fod digwyddiadau cydamserol eraill blwyddyn ei genedigaeth, a’i hoes, yn rhy niferus i’w hadnabod yn llawn….