Encil Creadigol Aurora Trinity Collective
Credit: Aurora Trinity Collective Creative Retreat to Manorbier February 2023. Credit - Aurora Trinity Collective
Credit: Aurora Trinity Collective Creative Retreat to Manorbier February 2023. Credit - Aurora Trinity Collective
Bu Aurora Trinity Collective mewn Encil Creadigol cyffrous yn YHA Maenorbŷr, yn Sir Benfro, rhwng 24 a 26 Chwefror 2023, fel rhan o’r bartneriaeth ‘Cysylltu a Ffynnu’ a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, The Aurora Phenomenon.
Ac yntau yn ei ail flwyddyn, mae hwn yn brosiect cydweithredol rhwng Artes Mundi, Canolfan Trinity ac Aurora Trinity Collective ochr yn ochr â’r Sylfaenydd a’r artist, Helen Clifford.
Yn ystod y penwythnos, bu artistiaid Aurora Trinity Collective yn cydweithio ar amrywiaeth o sesiynau creadigol a oedd yn defnyddio paentio dyfrlliw, brodwaith a ffeltio i adlewyrchu’r dirwedd leol, yn ogystal â thrafodaethau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol oedd yn ymwneud â phrosiectau mawr.
Fe fuon nhw’n treulio amser yn cerdded gyda’i gilydd ym myd natur ac yn ymweld â thraethau, a thrwy hynny feithrin undod ar y cyd, cryfhau cyfeillgarwch a chysylltu â thirwedd Cymru. Roedd bwyta a choginio hefyd yn rhan bwysig o’r penwythnos, gan rannu ryseitiau a bwyd blasus.
Cynhaliwyd gweithgareddau creadigol arbennig hefyd ar gyfer plant y grŵp, a oedd yn cynnwys arbrofi â collage, braslunio a phaentio, ynghyd ag adrodd straeon a gofod i archwilio eu dychymyg. Fe gawson nhw hefyd lawer o hwyl gyda’i gilydd gyda gemau awyr agored, nosweithiau ffilmiau a gemau bwrdd. Roedd digonedd o amser i fwynhau’r arfordir hardd, gan brofi manteision bod allan yn yr awyr agored yng nghanol byd natur.
Dywedodd Nasima Begum, aelod o grŵp llywio Aurora Trinity Collective, “Roedd yn benwythnos mor hyfryd, rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn ein bod ni wedi bod yno yn eich cwmni chi. Yr hyn y byddwn ni’n ei gofio yw’r atgofion hyfryd, y sgyrsiau, y canu, y gwenu a’r chwerthin.”
Please click images to enlarge