Artes Mundi 2
11 Chwefror
- 18 Mawrth 2006
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Yn cael ei chynnal yn 2006, parhaodd yr ail rifyn, Artes Mundi 2, i ddathlu diwylliant gweledol o bob cwr o’r byd. Derbyniwyd enwebiadau gan dros 60 o wledydd yn fyd-eang. Detholwyd wyth artist i restr fer ail Wobr Artes Mundi.
Credit: Artes Mundi Wales International Visual Art Prize National Museun of Wales Cardiff UK GB installation by Leandro Erlich
Credit:
Credit:
Enillydd Gwobr Artes Mundi 2 oedd Eija-Liisa Ahtila, artist o’r Ffindir.
Deepak Ananth, Curadur annibynnol a darlithydd Hanes Celf yn yr Ecole des Beaux-Arts yn Caen, Ffrainc
Ivo Mesquita, Curadur y Projeto Octógono, Pinacoteca do Estado, São Paulo, Brazil ac Athro Gwadd i’r Center for Curatorial Studies, Bar College, Efrog Newydd, UDA
Paolo Colombo, Curadur MAXXI, Museo Nazionale delle Arti del XXI Secolo, Rhufain, yr Eidal
Thelma Golden, Dirprwy Gyfarwyddwr, Arddangosfeydd a Rhaglenni, The Studio Museum, Harlem, UDA
Gerardo Mosquera, curadur a beirnaid celf annibynnol, yn gweithio yn Havana, Cuba
Jenni Spencer-Davies, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Cymru
Gwobrau
Eija-Liisa Ahtila
Yn 2006 dewiswyd Eija-Liisa Ahtila fel enillydd Gwobr Artes Mundi 2.
Credit: OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Ers dechrau’r 1990au, mae ffilmiau a ffotograffau Eija-Liisa Ahtila wedi adrodd straeon am berthnasoedd pobl ac mae’n delio â’r emosiynau elfennol sydd wrth wraidd y perthnasoedd hyn: sef cariad, dicter, cenfigen, rhywioldeb a bregusrwydd.