Artes Mundi 7

21 Hydref 2016
- 26 Chwefror 2017

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
a Chapter

Roedd Artes Mundi 7 yn cynnwys premier y byd o Transitory Suppository: Act #I Another Leader gan Nástio Mosquito, lle mae arweinydd gormesol gwlad o’r enw Botrovia yn dechrau cynnig yr hyn a wêl ef fel atebion cyflym ac ymarferol i broblemau’r byd; ynghyd â’r premier o Tyrrau Mawr (2016) gan Bedwyr Williams, lle mae’n ail-ddychmygu dinas enfawr yng Ngogledd Cymru gan bwyso a mesur sut mae’r dinasoedd newydd gwasgarog hyn yn dadleoli pobl, cymunedau a hanes, gan greu a chwalu ar yr un pryd.

 

Cliciwch yma i gael delwedd 3D o’r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Credit:

Credit:

Credit:

Cyflwynodd John Akomfrah ei diptych Auto da Fé (2016) lle defnyddir estheteg drama gyfnod i ystyried yr achosion hanesyddol a chyfoes sydd wrth wraidd ymfudo, gan ganolbwyntio ar erledigaeth grefyddol fel un o brif achosion dadleoli byd-eang. Mae Under-Writing Beirut gan Lamia Joreige yn archwilio hanes cymhleth gwrthdaro yn Libanus a sut mae gorffennol a phresennol Beirut yn dal i effeithio ar y ddinas a’i thrigolion. Teithiodd Amy Franceschini i Gaerdydd o Oslo mewn cwch, gan olrhain taith ymfudol hadau, er mwyn ystyried gwleidyddiaeth cynhyrchu bwyd a’r gwledydd hynny y mae ein bwyd yn tarddu ohonynt. Cyflwynodd Neïl Beloufa gyfres o ffilmiau gan gynnwys Monopoly (2016) lle mae criw o bobl ifanc o’r Wcráin yn chwarae Monopoly. Mae’r elfen chwareus yn cuddio natur ddifrifol y materion dan sylw, gan gnoi cil ar wleidyddiaeth a strwythurau grym.

Detholwyr

Elise Atangana, Curadur annibynnol wedi’i lleoli ym Mharis a’r Camerŵn

 

Alistair Hudson, Cyfarwyddwr, Sefydliad Celfyddyd Fodern Middlesbrough

 

Marie Muracciole, Cyfarwyddwr Canolfan Gelf Beirut

Beirniaid

Nick Aikens, Curadur, Van Abbemuseum, Eindhoven

 

Oliver Basciano, Golygydd (Rhyngwladol) ArtReview ac ArtReview Asia

 

Carolyn Christov-Bakargiev, Cyfarwyddwr, Castello di Rivoli Museo d’Arte Contemporanea a GAM – Galleria Civica d’Arte Moderna e Contemporanea, Torino

 

Phil Collins, artist

 

Elvira Dyangani Ose, Darlithydd, Diwylliannau Gweledol, Goldsmiths; Curadur Annibynnol; Aelod o’r Thought Council, Fondazione Prada

 

Ann Jones, Curadur, Arts Council Collection, y DU

 


Gwobrau

John Akomfrah

Enillydd Gwobr Artes Mundi 7 oedd John Akomfrah, artist o’r DU.

Credit: John Akomfrah with artwork Auto Da Fé

Mae Akomfrah, a aned yn Ghana, yn ffigwr arloesol mewn Sinema Brydeinig Ddu ac yn rhagflaenydd mewn sinematograffi digidol. Ers 30 mlynedd mae’r artist, yr awdur a’r damcaniaethwr wedi bod yn tynnu sylw at alltudiaeth Affricaniaid yn Ewrop trwy greu ffilmiau sy’n archwilio hanes ymylol cymdeithas Ewrop. Caiff ei weithiau eu hystyried ymhlith y rhai mwyaf nodedig ac arloesol yn y Brydain gyfoes.


Artistiaid

Artes Mundi 7

Neil Beloufa

Artes Mundi 7

Amy Franceshini

Artes Mundi 7

Lamia Joriege

Artes Mundi 7

Nástio Mosquito

Artes Mundi 7

Bedwyr Williams