Artes Mundi 8
26 Hydref 2018
– 24 Chwefror 2019
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae’r gwaith sy’n rhan o’r arddangosfeydd yn cwmpasu pedwar cyfandir ac amrywiaeth eang o arferion artistig. Mae lluniau, paentiadau, lluniau torri a gosodweithiau cynnil a gwleidyddol Anna Boghiguian yn archwilio systemau byd-eang ac arbedion pŵer cymhleth.
Credit:
Credit:
Credit:
Trwy ei defnydd o ffilm, mae Bouchra Khalili yn mynd ati’n ddeheuig i archwilio gwrthsafiad, lleiafrifoedd a hunaniaeth, yn aml ar y cyd â’r rhai sy’n destun i’w gwaith. Mae tapestrïau a gosodiadau cywrain a bendigedig Otobong Nkanga, a’i defnydd o fwynau a deunydd organig, yn cwestiynu ein perthynas ddynamig gyda’r tir a gwerth diwylliannol adnoddau naturiol a’r defnydd a wneir ohonynt. Mae’r defnydd unigryw a wna Trevor Paglen o ffotograffiaeth, cydweithredu gwyddonol a newyddiaduraeth yn rhoi cyfle i’r gwylwyr weld y pethau nas gwelir, gan ymchwilio i arferion niwlog y llywodraeth, gwyliadwriaeth a strwythurau cudd awdurdod, tra mae ffilmiau myfyriol a breuddwydiol Apichatpong Weerasethakul yn archwilio ysbrydion gorffennol Gwlad Thai, llecynnau trothwyol y cof a hunaniaeth ac ymwybyddiaeth gyffredin ac ymdeimlad o berthyn.
Nick Aikens, Curadur, Van Abbemuseum, Eindhoven
Alia Swastika, Curadur ac awdur sydd wedi’i lleoli yn Jakarta
Daniela Pérez, Curadur Annibynnol sydd wedi’i lleoli yn Ninas Mecsico
Oliver Basciano, Golygydd Rhyngwladol, ArtReview ac ArtReview Asia
Laura Raicovich, Curadur annibynnol, Efrog Newydd
Katoaka Mami, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phrif Guradur, Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo
Anthony Shapland, Cyfarwyddwr Creadigol, g39, Caerdydd
Gwobrau
Apichatpong Weerasethakul
Enillydd Gwobr Artes Mundi 8 oedd Apichatpong Weerasethakul, yr artist a’r gwneuthurwr ffilmiau o Wlad Thai.
Credit: Apichatpong Weerasethakul
Gan weithio yn y gofod rhwng sinema a chelfyddyd gyfoes, mae Weerasethakul yn creu gosodweithiau a ffilmiau sydd, yn aml, heb ddilyniant ac sy’n cyfleu ymdeimlad cryf o ddatgysylltiad ac arallfydolrwydd. Trwy drin a thrafod amser a golau, mae’n creu pontydd gwan y gall y gwylwyr eu defnyddio i deithio rhwng y gwirioneddol a’r chwedlonol, yr unigol a’r torfol, y materol a’r dychmygol.