Artes Mundi 8

26 Hydref 2018
– 24 Chwefror 2019

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae’r gwaith sy’n rhan o’r arddangosfeydd yn cwmpasu pedwar cyfandir ac amrywiaeth eang o arferion artistig. Mae lluniau, paentiadau, lluniau torri a gosodweithiau cynnil a gwleidyddol Anna Boghiguian yn archwilio systemau byd-eang ac arbedion pŵer cymhleth.

Credit:

Credit:

Credit:

Trwy ei defnydd o ffilm, mae Bouchra Khalili yn mynd ati’n ddeheuig i archwilio gwrthsafiad, lleiafrifoedd a hunaniaeth, yn aml ar y cyd â’r rhai sy’n destun i’w gwaith. Mae tapestrïau a gosodiadau cywrain a bendigedig Otobong Nkanga, a’i defnydd o fwynau a deunydd organig, yn cwestiynu ein perthynas ddynamig gyda’r tir a gwerth diwylliannol adnoddau naturiol a’r defnydd a wneir ohonynt. Mae’r defnydd unigryw a wna Trevor Paglen o ffotograffiaeth, cydweithredu gwyddonol a newyddiaduraeth yn rhoi cyfle i’r gwylwyr weld y pethau nas gwelir, gan ymchwilio i arferion niwlog y llywodraeth, gwyliadwriaeth a strwythurau cudd awdurdod, tra mae ffilmiau myfyriol a breuddwydiol Apichatpong Weerasethakul yn archwilio ysbrydion gorffennol Gwlad Thai, llecynnau trothwyol y cof a hunaniaeth ac ymwybyddiaeth gyffredin ac ymdeimlad o berthyn.

Detholwyr

Nick Aikens, Curadur, Van Abbemuseum, Eindhoven

 

Alia Swastika, Curadur ac awdur sydd wedi’i lleoli yn Jakarta

 

Daniela Pérez, Curadur Annibynnol sydd wedi’i lleoli yn Ninas Mecsico

Beirniaid

Oliver Basciano, Golygydd Rhyngwladol, ArtReview ac ArtReview Asia

 

Laura Raicovich, Curadur annibynnol, Efrog Newydd

 

Katoaka Mami, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phrif Guradur, Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo

 

Anthony Shapland, Cyfarwyddwr Creadigol, g39, Caerdydd

 


Gwobrau

Apichatpong Weerasethakul

Enillydd Gwobr Artes Mundi 8 oedd Apichatpong Weerasethakul, yr artist a’r gwneuthurwr ffilmiau o Wlad Thai.

Credit: Apichatpong Weerasethakul

Gan weithio yn y gofod rhwng sinema a chelfyddyd gyfoes, mae Weerasethakul yn creu gosodweithiau a ffilmiau sydd, yn aml, heb ddilyniant ac sy’n cyfleu ymdeimlad cryf o ddatgysylltiad ac arallfydolrwydd. Trwy drin a thrafod amser a golau, mae’n creu pontydd gwan y gall y gwylwyr eu defnyddio i deithio rhwng y gwirioneddol a’r chwedlonol, yr unigol a’r torfol, y materol a’r dychmygol.


Artistiaid

Artes Mundi 8

Anna Boghiguian

Artes Mundi 8

Bouchra Khalili

Artes Mundi 8

Otobong Nkanga

Artes Mundi 8

Trevor Paglen