Faengoch

gan Gweni Llwyd

Does dim y fath beth â dynol a natur – mae dynol yn natur. Mae dynol yn wyllt. Mae technoleg yn wyllt. Os yw natur ar wahân, mae’n teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth ar wahân i ni’n hunain; mae’n ein helpu i deimlo’n iawn am bethau drwg a wnawn i’r amgylchedd. Os adferwn y symbolaidd, adfer y barddol, rydym yn deall ein bod yn gwneud rhywbeth i bopeth.

 

Yr artist Jack Tan yn siarad yn Online Conversations: Framework for Resilience, FACT, Chwefror 2021.

Ar ôl bron i flwyddyn o deimlo’n rhy fawr mewn fflat, rwy’n teimlo’n fach rhwng muriau’r amgueddfa – rwyf wedi colli’r teimlad o fod yn gorfforol bresennol. Yn sydyn iawn, rwy’n cael fy nyrnu yn fy wyneb gan lun enfawr Prabhakar Pachpute o ddwrn caeedig. Mae syniadau am gydsafiad, undod a gwrthwynebiad yn neidio i’r meddwl. Rwy’n edrych yn agosach. Mae’r dwrn hwn wedi’i gloddio.

 

Rwy’n edrych o amgylch yr ystafell. Mae’n llawn darluniau cyfoethog gan Pachpute, sy’n defnyddio haenau a throsiadau gweledol i archwilio cloddio, amodau gwaith a gwleidyddiaeth tir. Cafodd y gwaith ei lywio’n rhannol wrth i Pachpute weld cysylltiadau llafur dosbarth gweithiol a symbolau undod rhwng gwahanol draddodiadau glofaol yn India a Chymru. Fe’m hatgoffir o waith gan Anna Boghiguian ac Otobong Nkanga a oedd yn byw yn yr un adeilad dair blynedd cyn hynny, ac yn curadu sioe ddychmygol yn fy mhen sy’n cyfuno gwaith y tri.

 

Cafodd Pachpute ei fagu yn Sasti, Chandrapur, dinas lofaol yn India – a gaiff ei galw’n ddinas yr aur du hefyd. Mae ei waith yn dwyn ynghyd lawer o straeon yn ogystal â phrofiadau o’i fywyd ei hun. Dywed Pachpute ei fod yn “cyfosod atgofion a’r hyn sy’n digwydd mewn bywyd go iawn”. Gan fyfyrio ar hyn, rwy’n meddwl am sut na allwn osgoi dod â’n hemosiynau, ein hatgofion a’n profiadau byw ein hunain gyda ni lle bynnag yr awn, a’r holl gysylltiadau a wnawn mewn ffordd ymwybodol ac yn ddiarwybod yn ein meddyliau. Heb geisio gwneud hynny, rwy’n meddwl am fy nghartref.

 

Cefais fy magu mewn pentref bychan o’r enw y Fron yn Nyffryn Nantlle. Saif Dyffryn Nantlle ar ddyddodion llechi Cambriaidd sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed, ac o ganlyniad mae wedi cael ei gloddio’n helaeth. Mae talpiau enfawr wedi’u tynnu o ochrau mynyddoedd.  Yn dechnegol, mae hyn wedi digwydd drwy brosesau helaeth o chwarela (a elwir weithiau’n gloddio brig). Mae chwarela’n achosi creithiau gweladwy iawn, tra bod mwyngloddio’n cuddio’i glwyfau o dan y ddaear.

 

Mae darluniau swrrealaidd Pachpute’n cyfuno harddwch a’r absẃrd, yn debyg iawn i dirwedd sydd wedi’i chloddio. Pan wyf yn yr oriel, rwy’n cael fy nenu gan bortread Pachpute o bysgodyn mawr mewn pwll bach o ddŵr yn rhyddhau ager. Mae’n fy atgoffa o adeilad yn chwarel fwyaf Dyffryn Nantlle – hen injan drawst Gernywaidd (1) yn chwarel Dorothea – a ddefnyddiai ager yn ei dydd i bwmpio dŵr o byllau’r chwarel. Erbyn heddiw, mae’r pyllau yn Nyffryn Nantlle dan ddŵr gan mwyaf – mae gan eu dyfroedd wrid gwyrddlas dramatig a achosir gan adlewyrchiad y llechi o’u hamgylch. Mae’r ffordd y mae Pachpute yn trawsnewid offer, technoleg, natur, pobl a thir yn gymeriadau unigol yn gadael teimlad yn fy nghnawd. Y noson honno, cyn syrthio i gysgu, dychmygaf agor fy ngheg fel y cymeriad Predator i wneud lle i eingion fetel enfawr, oer sy’n cymryd lle fy mhen.

 

Mae Pachpute yn darlunio cyrff. Mae iaith y dirwedd yn gorfforol. Caiff adnoddau eu tynnu owythiennau llythrennol sy’n rhedeg ar draws y blaned – a yw hyn yn golygu ein bod yn achosi iddi waedu? Mae prosesau cloddio a chwarela fel systemau treulio hefyd – mae’r tir yn cael ei gnoi’n ddarnau, mae’n cael ei brosesu, ac rydym yn cael ein gadael gyda’r canlyniadau annymunol. Mae’n dwyn llun o olygfa agoriadol (2) ffilm y brodyr Safdie yn 2019 i gof, sef Uncut Gems – gwelwn lowyr yn echdynnu opal du prin cyn iddo sugno’r camera i mewn. Rydym yn mynd i mewn i fydysawd eang o liw, gan symud drwy wahanol liwiau gwyrdd, glas ac oren llachar cyn cyrraedd llwybr blonegog. Mae’r ddelwedd yn dechrau colli ei heglurder a datgelir ein bod yn gwylio colonosgopi’r prif gymeriad, Howard Ratner.

 

Yn ei waith, mae Pachpute yn edrych ar drawsnewidiad y tir, yn aml iawn trawsnewidiad tir fferm yn dir cloddio glo. Mae’n debyg mai chwarel Cilgwyn, un arall o’r hanner cant a mwy o chwareli yn Nyffryn Nantlle ar dir comin blaenorol, yw’r chwarel hynaf yng Nghymru. Ym 1956 y gweithiwyd ynddi ddiwethaf. Ym 1974 penderfynodd rhywun y byddai’n briodol dechrau llenwi un o’i phyllau – gyda thunelli di-ben-draw o wastraff cartref. Cafodd ei throi’n safle tirlenwi tan i honno gau yn 2009 ar ôl 15 mlynedd o ymgyrchu gan bobl leol. Ni fydd yn dir diogel y gellir ei ddefnyddio am o leiaf ugain mlynedd (er y bydd yn ganrifoedd cyn i lawer o’r sbwriel claddedig bydru’n llwyr). Yn debyg iawn i glwyf diferol ar gorff, mae trwytholch yn dal i ddod o Chwarel Cilgwyn – hylif niweidiol sy’n draenio o safleoedd tirlenwi – wrth iddi barhau â’i phroses hir o wella.

 

Mae’r cymeriadau yng ngwaith Pachpute yn uno eu hunaniaeth â’r dirwedd mewn “trawsnewidiad cyson ond gwyliadwrus”. Mae’n sôn am bŵer tebyg sydd ganddynt i gyd y tu mewn – maent yn newid eu hymddangosiad yn ôl lle maen nhw a’r hyn y maent yn chwilio amdano. Fe’m hatgoffir o bennill olaf cerdd a ysgrifennwyd ym 1893 gan John Griffith Evans, chwarelwr 19 oed a fu’n gweithio yn Chwarel y Braich yn fy mhentref genedigol, y Fron:

 

“Ac os oes rai ohonoch chwi

Yn gwledda ar eich moethau,

Cofiwch gŵyn y gweithiwr tlawd

Yn nannedd erch y creigiau,

Mewn llafur blin a chaled iawn

Yng nghanol y peryglon

Yn ceisio ennill ceiniog fach

I dalu ei ofynion.”

 

Gellir dod o hyd i gyfeiriadau at ddarluniau cynhanesyddol mewn ogofâu yng ngwaith Pachpute, gan gysylltu tu mewn y pwll â thu mewn yr ogof. Rwy’n meddwl am ein hysfa gynoesol i greu marciau. Pan oeddwn i’n iau, rwy’n cofio edmygu pobl yn eu harddegau a oedd wedi dringo dros dir peryglus iawn i sgriffian eu henwau mewn llythrennau gwyn bras ar draws wyneb y llechi yn Chwarel Moel Tryfan gerllaw. Roedd rhai wedi dirmygu’r weithred – sut feiddia’r bobl ifanc amharchu’r tir! – bron heb sylweddoli nad yw degawdau o wthio ffrwydron i’r ddaear yn gosod y cynsail gorau mewn gwirionedd. Byddai’r paent yn pylu, ond mae’r ceudyllau enfawr yn y mynyddoedd, sydd wedi’u llenwi bellach â cheir drylliedig, carcasau defaid a sbwriel, yma am byth.

 

Rwy’n meddwl am y dyddiau a dreuliais fel plentyn yn chwarae gyda’m ffrindiau ar domenni llechi, llithro i lawr eu hochrau miniog, a naddu enwau a siapiau ar ddarnau o lechi. Mae peth o’r gwastraff llechi hwn yn cael ei gasglu gan gwmnïau preifat erbyn hyn i’w werthu i eraill i addurno gerddi. Rwy’n meddwl am rymoedd diatal natur a’r tirlithriad diweddar yn Nefyn (3)  a lyncodd ardd tŷ haf (diwydiant anghynaliadwy arall eto). Rwy’n meddwl am Aberfan (4) yn y de, y gost ddynol fyd-eang o wthio’r ddaear yn rhy bell ac esgeulustod gan y rhai sydd mewn grym. Mae’r awdur a’r beirniad Lucy R. Lippard yn defnyddio’r term ‘economi danddaearol’ i gyfeirio at ddiwydiannau sy’n “tynnu eu cyfoeth o’r ddaear gan beri niwed i’r bobl a diwylliannau sy’n byw ar yr wyneb.” Efallai fod yr haul wedi machlud ar chwareli Dyffryn Nantlle ond nid yw’n ymddangos bod yr economi danddaearol mewn mannau eraill yn arafu – cynhyrchodd y 40 cwmni glofaol mwyaf yn fyd-eang, sef y gyfran fwyaf o’r diwydiant yn ei gyfanrwydd, incwm o dros hanner triliwn o ddoleri Americanaidd yn 2019. Efallai y bydd y rhai sydd ar eu hennill fwyaf o arteithio’r tir a llafur caled pobl eraill yn deffro rhyw ddydd fel cymeriadau Pachpute-aidd eu hunain, eu harian papur yn asio â’u croen.

 

1 Nantlle

2 Uncut Gems

3 Nefyn

4 Aberfan


Mae Gweni Llwyd yn Gynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi 9 ac artist gweledol sy’n gweithio’n bennaf ym maes fideo, lluniadu, gosod ac animeiddio 3d. Mae hi’n gyd-sylfaenydd RAT TRAP ar y cyd yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae’n rhan o breswyliad Jerwood UNITe yn g39, Caerdydd.