Mounira Al Solh

Credit: Mounira Al Solh
Artist gweledol yw Mounira Al Solh sy’n cofleidio, ymhlith pethau eraill, fideo a gosodweithiau fideo, paentio ac arlunio, brodwaith ac ystumiau perfformiadol. Mae eironi a hunanfyfyrio yn strategaethau canolog ar gyfer ei gwaith sy’n ymdrin â materion ffeministaidd, yn olrhain patrymau micro-hanes, yn gymdeithasol ymgysylltiol ac yn gallu bod yn wleidyddol ac yn ddihangol yr un pryd.
Yn 2008, dechreuodd Al Solh NOA Magazine, ystum perfformiadol a gydolygir â chydweithredwyr fel Fadi El Tofeili a Mona Abu Rayyan, a Jacques Aswad (NOA III).
Mae wedi cynnal arddangosfeydd un-ddynes yn Mathaf, Qatar (2018); Sefydliad Celf Chicago (2018); ALT, Istanbwl (2016); a Sefydliad Celfyddyd Gyfoes KW, Berlin (2014).
Please click images to enlarge