Naomi Rincón Gallardo

Credit: Naomi Rincón Gallardo - Credit Courtesy the artist
Artist gweledol ac ymchwilydd yw Naomi Rincón Gallardo. O safbwynt datdrefedigaethol-cwiar, mae’r bydoedd breuddwydiol beirniadol-fythegol a grëir ganddi a’u gyrru gan ymchwil yn mynd i’r afael â chreu gwrthfydoedd mewn lleoliadau neo-drefedigaethol. Yn ei gwaith mae’n integreiddio ei diddordebau mewn gemau theatr, cerddoriaeth boblogaidd, cosmolegau America Ganol, ffuglen ddamcaniaethol, dathliadau a chrefftau brodorol, benywyddiaethau datdrefedigaethol a beirniadaeth cwiar o liw.
Ar hyn o bryd mae’n fuddiolwraig Sistema Nacional de Creadores de Arte, FONCA (2019-2022), Mecsico. Mae ei sioeau un-ddynes ac ar y cyd a’i dangosiadau perfformiadol yn cynnwys 59ain Arddangosfa Celfyddyd Ryngwladol La Biennale di Venezia (2022); 34ain Bienal de São Paulo (2021); Una Trilogía de Cuevas (Trioleg o Ogofâu), Museo de Arte Contemporáneo de Oaxaca (2020); May your thunder break the sky, Kunstraum Innsbruck (2020); 11fed Biennale Berlin, (2020).
Please click images to enlarge