Nguyễn Trinh Thi
Arddangos yn Glynn Vivian a hefyd Chapter
I ddarllen y dyfyniad o “ A Tale for 2000”, y cyfeirir ato
y cyfeirir ato yn Oriel Gelf Glynn Vivian cliciwch ar y ddolen hon
Mae Nguyễn Trinh Thi (g 1973, Hanoi) yn wneuthurwr ffilmiau ac artist o Hanoi. Gan groesi ffiniau rhwng celf ffilm a fideo, gosodweithiau a pherfformio, mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r cysylltiadau lluosog rhwng delwedd, sain a gofod. Mae ganddi ddiddordeb parhaus mewn hanes, cof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys.
Credit: Filmmaker and artist, Nguyễn Trinh Thi - Credit Quoc Nguyen
Mae gwaith Nguyễn Trinh Thi wedi cael ei ddangos mewn gwyliau ffilm ac arddangosfeydd rhyngwladol gan gynnwys Arddangosfa Deirblwydd Celf Gyfoes Asia a’r Môr Tawel (APT9) yn Brisbane; Arddangosfa Eilflwydd Sydney (2018); Jeu de Paume, Paris; Biennale Lyon (2015); Arddangosfa Deirblwydd Celf Asiaidd Fukuoka (2014); a Biennale Singapore (2013). Yn fwyaf diweddar, yn 2022, arddangoswyd ei gosodiad cyfryngau cymysg, And They Die A Natural Death, yn Documenta 15 yn Kassel, yr Almaen (2022).
Please click images to enlarge
Taith 3D Nguyễn Trinh Thi
Gan groesi ffiniau ffilm, gosodiad a pherfformiad, mae Nguyễn Trinh Thi yn archwilio grym sain a gwrando, ac yn ymchwilio i rôl cof yn y broses angenrheidiol o ddatgelu hanesion cuddiedig neu ddadleoledig. Ysbrydolwyd And They Die a Natural Death gan olygfa o saethu carcharorion mewn coedwig coed tsilis gwyllt, a ddisgrifir yn nofel hunangofiannol ‘Tale Told in the Year 2000’ gan yr awdur Fietnamaidd Bùi Ngọc Tấn. Mae’n chwarae â chysgodion ac yn creu sain ingol â ffliwtiau bambŵ a grëwyd yn unswydd ar gyfer hyn drwy system awtomataidd o reolwyr sy’n adalw data gwynt byw o synhwyrydd a osodwyd yng nghoedwig Tam Đảo, lle’r arferai gwersyll-garchar y llenor fod.
Nguyễn Trinh Thi Disgrifiad Sain
Gwrandewch ar ddisgrifiad sain o arddangosfa Nguyễn Trinh Thi.
At The Table gyda Nguyễn Trinh Thi
Fel rhan o gyfres At The Table, cyfarfu Nguyễn Trinh Thi mewn sgwrs â Zoe Butt, curadur, awdur a Sylfaenydd/Cyfarwyddwr athrofa in-tangible ; Philippa Lovatt, darlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol St Andrews; a’r awdur, curadur ac athrawes May Adadol Ingawanij. Cyflwynwyd y gyfres At The Table mewn partneriaeth â British Council Cymru.
Cyfweliad gydag ArtReview
Darllenwch y cyfweliad ArtReview gyda Nguyễn Trinh Thi yma.
Mae ArtReview yn bartner cyfryngau i Artes Mundi 10.