Nguyễn Trinh Thi

Arddangos yn Glynn Vivian a hefyd Chapter

Mae Nguyn Trinh Thi (g 1973, Hanoi) yn wneuthurwr ffilmiau ac artist o Hanoi. Gan groesi ffiniau rhwng celf ffilm a fideo, gosodweithiau a pherfformio, mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r cysylltiadau lluosog rhwng delwedd, sain a gofod. Mae ganddi ddiddordeb parhaus mewn hanes, cof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys.

Credit: Filmmaker and artist, Nguyễn Trinh Thi - Credit Quoc Nguyen

Mae gwaith Nguyễn Trinh Thi wedi cael ei ddangos mewn gwyliau ffilm ac arddangosfeydd rhyngwladol gan gynnwys Arddangosfa Deirblwydd Celf Gyfoes Asia a’r Môr Tawel (APT9) yn Brisbane; Arddangosfa Eilflwydd Sydney (2018); Jeu de Paume, Paris; Biennale Lyon (2015); Arddangosfa Deirblwydd Celf Asiaidd Fukuoka (2014); a Biennale Singapore (2013). Yn fwyaf diweddar, yn 2022, arddangoswyd ei gosodiad cyfryngau cymysg, And They Die A Natural Death, yn Documenta 15 yn Kassel, yr Almaen (2022).  


Please click images to enlarge

At The Table gyda Nguyễn Trinh Thi

YouTube player

Fel rhan o gyfres At The Table, cyfarfu Nguyễn Trinh Thi mewn sgwrs â Zoe Butt, curadur, awdur a Sylfaenydd/Cyfarwyddwr athrofa in-tangible ; Philippa Lovatt, darlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol St Andrews; a’r awdur, curadur ac athrawes May Adadol Ingawanij. Cyflwynwyd y gyfres At The Table mewn partneriaeth â British Council Cymru.