Clwb Ffilmiau Rhyngwladol: Vietnam the Movie

Clwb Ffilmiau Rhyngwladol: Vietnam the Movie

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5DZ

1 Rhagfyr 2023
3:00 pm - 4:00 pm
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Vietnam the Movie (2015) 18+

 

Cyfarwyddwyd gan Nguyễn Trinh Thi

 

Ffilm ddogfen

 

Fideo ar sianel unigol, 47 munud, lliw a du a gwyn, sain

Credit:

Mae Vietnam the Movie yn defnyddio montage sydd wedi’i llunio’n ofalus o ddarnau o ffilmiau drama a rhaglenni dogfen i roi cyfrif cronolegol o hanes Fietnam o ganol y 1950au i ddiwedd y 1970au, sy’n cynnwys diwedd gwladychiaeth Ffrengig a chyfranogiad America yn Rhyfel Fietnam. Ond nid yw hyn yn wers hanes traddodiadol. Yn hytrach, mae’r darnau a ddewisir yn cyferbynnu gydag amrywiaeth o syniadau allanol sy’n aml yn wrthryfelgar, gan amrywio o ddrama brif ffrwd Hollywood i gelf Ewropeaidd. Mae deunyddiau ffynhonnell o’r UD yn cynnwys ‘Apocalypse Now’, ‘Born on the Fourth of July’ and ‘Forrest Gump’, a chaiff Ewrop ei chynrychioli gan waith Harun Farocki, Rainer Werner Fassbinder, Werner Herzog a Jean-Luc Godard.

 

 

Mae’r Cyfarwyddwr Nguyễn Trinh hefyd yn defnyddio darnau o ffilmiau Nagisa Oshima, Satyajit Ray ac Ann Hui. Mae’r canlyniad yn awgrymu bod unrhyw lun ‘gwir’ o Fietnam wedi cael ei golli i’r amrywiaeth o ddibenion symbolaidd y defnyddiwyd y wlad, ei phobl a’u trallodau ar eu cyfer.