![ARTES MUNDI_IMG_20191130_135515_AURORA_COLLABORATION Dathlu Wythnos Ffoaduriaid](https://artesmundi.org/wp-content/uploads/2021/01/ARTES-MUNDI_IMG_20191130_135515_AURORA_COLLABORATION-1500x751.jpg)
Dathlu Wythnos Ffoaduriaid
Ddydd Llun 19 Mehefin rhwng 11:00am ac 1:00pm
Chanolfan y Drindod
Piercefield Pl
Caerdydd
CF24 1LE
Mae’r Aurora Trinity Collective, Artes Mundi a Chanolfan y Drindod yn dod at ei gilydd i ddathlu Wythnos y Ffoaduriaid. Mae croeso i bawb ymuno â ni ddydd Llun 19 Mehefin rhwng 11:00am ac 1:00pm yng Nghanolfan y Drindod. Gallwch chi ddysgu technegau argraffu â blociau, ac addasu bagiau’r Aurora Trinity Collective eich hun.
![](https://artesmundi.org/wp-content/uploads/2023/06/refugee-week-graphic-scaled.jpg)
Credit: Celebrating Refugee Week graphic
Dewch i wybod mwy beth rydyn ni’n ei wneud, a sut.
Gweithdy anffurfiol galw heibio fydd hwn, ac mae croeso i bawb o bob oed. Darperir deunyddiau.
Mae’r gweithdy’n rhan o brosiect Ffenomen Aurora, sydd wedi bod yn bosibl drwy grant Cysylltu a Ffynnu gan Gyngor y Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol.