Multiple mixed media drawings on legal paper, mostly of women, are on display on long shelves in a white exhibition space.

Mounira Al Solh “a night hour, as looong as a song”

Perfformiad ar y cyd ag Oasis One World Choir

20 Hydref 2023
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Prif Neuadd
Bydd perfformiadau'n cael eu cynnal am 1:30pm a 3:30pm
Am ddim – dim angen archebu lle

Mae Mounira Al Solh, gydag Oasis One World Choir, yn cyflwyno ‘night hour, as looong as a song’, sef perfformiad newydd sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd. Gan nodi agoriad arddangosfa Al Solh fel rhan o AM10, mae’r perfformiad yn archwilio mudo, herfeiddiad, undod a chysylltiad â lle.

 

Bydd y côr yn perfformio caneuon, rhai wedi’u hysgrifennu gan yr aelodau eu hunain, fel ‘Ayman’s Song’, sy’n cynnwys sawl iaith – ymysg y rheini mae Arabeg, Saesneg, Ffrangeg, Swahili a Chymraeg. Bydd y caneuon yn cael eu hail-gymysgu’n gynnil ac, ar ôl cael eu perfformio, byddant yn dod yn elfen sonig o fewn cerflun mawr newydd fel rhan o arddangosfa Al Solh.

 

Mae aelodau’r côr hefyd wedi cyfrannu at brosiect parhaus Al Solh ‘Rwy’n credu yn ein hawl i fod yn wamal’, sy’n rhan o’i harddangosfa a fydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 25 Chwefror 2024.

 

Cliciwch yma i weld sut mae cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a chael gafael ar wybodaeth.

 

Mae Oasis One World Choir yn croesawu pobl sy’n ceisio lloches yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach. Ein nod yw dysgu gan y rheini sy’n cysylltu â ni, gan rannu, tyfu a ffurfio gyda’n gilydd. Mae ein côr yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n gorfod ailddechrau eu bywydau mewn gwlad newydd; yn aml mewn iaith sy’n gwbl newydd iddyn nhw. Mae iaith cerddoriaeth yn codi uwchlaw’r rhwystrau hyn, ac mae ein côr yn galluogi pobl i wneud ffrindiau newydd ac adeiladu cymuned gyda’i gilydd.