![Naomi Rincón Gallardo, Installation view at Chapter, Artes Mundi 10, 2023-24. Photo: Stuart Whipps Sonnet of Vermin: Dangosiad a Thrafodaeth](https://artesmundi.org/wp-content/uploads/2023/11/AM_Naomi-Rincon-Gallardo_288-scaled-1500x751.jpg?theia_smart_thumbnails_file_version=2)
Sonnet of Vermin: Dangosiad a Thrafodaeth
Chapter
Heol y Farchnad
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE
7 Rhagfyr 2023
18:30
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle
Ymunwch â ni mewn dangosiad ffilm, grŵp darllen a thrafodaeth yn Chapter, dan arweiniad y myfyriwr MFA Curadu, Tom Cullimore. Mae’r digwyddiad arbrofol yma wedi’i ysbrydoli gan ffilm Sonnet of Vermin gan yr artist o Fecsico, Naomi Rincon Gallardo, sy’n arddangos gwaith yn Chapter ar hyn o bryd fel rhan o Artes Mundi 10.
Byddwn ni’n gwylio ffilm Naomi ac yna’n defnyddio pytiau o ddarn o waith ffuglen ddyfaliadol i wyro ein safbwyntiau ein hunain ar y gwaith celf. Mewn gofod grŵp bach, ymlaciol a pharchus, bydd yna gyfle i drafod y ffilm mewn perthynas â gwleidyddiaeth gwiar, ôl-drefedigaethol ac amgylcheddol.