Bethan Mair Williams stood in front of Taloi Havini's three screen film, Habitat (2017)

Taith arddangos o waith Taloi Havini dan arweiniad Bethan Mair Williams

Mostyn
12 Stryd Vaughan
Llandudno
LL30 1AB

3 Chwefror 2024
11:00 yb - 11:45 yp - Taith Saesneg
2:00 yb - 2:45yp - Taith Saesneg (GWERTHU ALLAN)
3:00 yp - 3:45yp - Taith Cymraeg
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Mae’r daith hon wedi cael ei chynllunio i roi trosolwg o waith Taloi Havini yn arddangosfa Artes Mundi 10. Bydd y daith hamddenol hon yn cael ei chyflwyno gan Bethan Mair Williams. Bydd y daith hon yn un unigryw, oherwydd nid yn unig y bydd yn archwilio celf Taloi Havini, ond hefyd cysylltiad personol Bethan â’r artist a’i theulu. Mae Bethan yn byw yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ond mae ganddi gysylltiad â Bougainville ers ei phlentyndod cynnar. Mae’r cysylltiad personol hwn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddi o’r nawsau a’r dylanwadau diwylliannol sy’n llywio mynegiant artistig Taloi Havini, gan ganiatáu i ni ymgolli yn y straeon a’r cymhlethdodau sy’n rhan annatod o gelf Taloi Havini.

 

 

Mae lleoedd yn brin a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod. Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth ychwanegol o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at letty.clarke@artesmundi.org