Taloi Havini

Arddangos yn Mostyn a hefyd Chapter

Ganwyd Taloi Havini (g 1981, Llwyth Nakas, pobl Hakö) yn Arawa, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville, ac ar hyn o bryd mae’n byw yn Brisbane, Awstralia.

Credit: Taloi Havini - Credit Zan Wimberley

Mae ei hymarfer ymchwil yn seiliedig ar ei chysylltiadau ar ochr ei mam â’i gwlad a chymunedau yn Bougainville. Amlygir hyn mewn gwaith a grëwyd gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol, gan gynnwys ffotograffiaeth, sain a fideo, cerfluniau, gosodiadau trochi a phrint.  

 

Mae’n curadu ac yn cydweithio ar draws llwyfannau aml-gelf gan ddefnyddio archifau, gweithio gyda chymunedau, a datblygu comisiynau yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae cynhyrchu gwybodaeth, trosglwyddo, etifeddiaeth, mapio a chynrychiolaeth yn themâu canolog yng ngwaith Havini lle mae’n archwilio’r rhain mewn cysylltiad â thir, pensaernïaeth a lle.  

 

Mae gan Havini radd Baglor yn y Celfyddydau (Anrhydedd) o Ysgol Gelf Canberra, Prifysgol Genedlaethol Awstralia. Mae ei harddangosfeydd unigol yn cynnwys “The Soul Expanding Ocean #1: Taloi Havini” (wedi’i churadu gan Chus Martínez), Ocean Space, Campo San Lorenzo, Fenis, comisiwn ar gyfer Biennale Pensaernïaeth Fenis (2021); “Reclamation”, Artspace, Sydney (2020); “Habitat”, Palais de Tokyo, Paris (2017). Mae wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd grŵp gan gynnwys “In the Heart of Another Country”, Deichtorhallen, Hambwrg (2022); 17eg Arddangosfa Eilflwydd Istanbul (2022); “A beast, a god, and a line”, Kunsthall Trondheim, Norwy (2020); Arddangosfa Eilflwydd Sharjah 13, yr Emiraethau Arabaidd Unedig (2017); 3ydd Arddangosfa Deirblwydd Aichi, Nagoya (2016); ac 8fed a 9fed Arddangosfa Celf Gyfoes Deirblwydd Asia a’r Môr Tawel, Oriel Gelf Queensland ac Oriel Celf Fodern, Brisbane (2015 a 2018). Cedwir gwaith celf Havini mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys TBA21–Academy; Sefydliad Celf Sharjah; Oriel Gelf De Cymru Newydd; Oriel Gelf Queensland a’r Oriel Celf Fodern; Oriel Genedlaethol Victoria; a KADIST, San Francisco, CA, UDA. 

 

Cynrychiolir Taloi Havini gan Silverlens, Manila ac New York.


Please click images to enlarge