A person stood on a viewing platform looking at an installation by Nguyễn Trinh Thi where chilli plants are projected onto the walls and ceiling in a dark room.

Taith Disgrifiad Clywedol o Osodwaith Nguyễn Trinh Thi

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5DZ

14 Rhagfyr 2023
1:00 pm - 3:00 pm
Free, Limited spaces.
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Ymunwch â chynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi 10 Amy Treharne ar y daith sain ddisgrifio arbennig hon o amgylch And They Die a Natural Death (2022) Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian ar 14 Rhagfyr.

 

Mae Nguyễn Trinh Thi yn wneuthurwr ffilmiau ac yn artist o Hanoi, y mae ei gwaith yn croesi’r ffiniau rhwng ffilm a chelf fideo, gosodwaith a pherfformiad. Mae ei hymarfer presennol yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r amryfal berthnasoedd rhwng delwedd, sain a lle. Mae ei gwaith yn archwilio hanes, atgof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys.

Mae’r daith hon, sydd wedi’i llunio’n arbennig i bobl â nam ar y golwg, yn rhoi mewnwelediad i chi ar ymarfer yr artist ac yn darparu delwedd feddyliol bwerus a fydd yn taflu goleuni ar y gwaith a’r syniadau a geir ynddo.