Plant y Cymoedd

Medi 2023 – Ebrill 2024

Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri

Fel rhan o raglen gyhoeddus AM10, buom yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau i ddatblygu cyfres o brosiectau gyda chymunedau. Cafodd y rhain eu gwireddu mewn ymateb i’r themâu a’r syniadau a oedd yn bresennol yn yr ymarferion a’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos gan bob un o’r saith artist. Cymerodd y prosiectau sawl ffurf tra bod cymunedau hefyd wedi cyfrannu at ein cyfres o bodlediadau a chynhyrchu labeli deongliadol a ddangosir yn yr orielau.

Credit: Valleys Kids exhibition, 06.02.24. Photography: Polly Thomas

Credit: Valleys Kids exhibition, 06.02.24. Photography: Polly Thomas

 

 

 

 

Ymatebodd Plant y Cymoedd i waith Alia Farid a chydweithio â’r artistiaid Menna Buss a Rebecca Wyn Kelly ar gynhyrchu gweithiau newydd a gyflwynwyd yn Archwilio, arddangosfa yn Y Ffatri, Porth, ddechrau Chwefror 2024. Fe wnaeth Plant y Cymoedd gynnal gweithdy ac agoriad arddangosfa ar y cyd hefyd gydag aelodau o’r grŵp Threads o Oriel Gelf Glynn Vivian ar 6 Chwefror. Yn ogystal â’r ymweliadau ymchwil a’r digwyddiadau cyhoeddus hyn, roedd y prosiect hwn ag 16 o gyfranogwyr ac yn cynnwys pum gweithdy, pedwar cyfweliad i’w cynnwys mewn podlediadau, testun a gynhyrchwyd fel ‘para-label’, a dau ymweliad cyfnewid.


Please click images to enlarge

Partneriaid Cyflwyno

 

Partneriaid Craidd

 

Partneriaid Cyllido