Artes Mundi 7 CatalogueArtes Mundi 7 Catalogue

Catalog Artes Mundi 7

£10.00

Wedi’i gyhoeddi gan Artes Mundi Prize Ltd, mae’r catalog ar gyfer Artes Mundi 7 yn cynnwys sgwrs ar y broses ddethol gydag Élise AtanganaAlistair Hudson, Marie Muracciole a thraethodau wedi’u comisiynu gan Fredrick Charles Moten, Andrew BerardiniCooley Windsor, Françoise Parfait a sgwrs e-bost rhwng Ryan Gander a Bedwyr Williams. Cyflwyniad gan Karen MacKinnon. Mae hefyd yn cynnwys ystod lawn o ddelweddau lliw, rhestr o weithiau a bywgraffiadau o’r artistiaid. Cyhoeddir yn Gymraeg a Saesneg.

67 mewn stoc

Categori:

Disgrifiad

Clawr meddal

91 tudalen a chloriau

Dimensiynau: 240 x 165 x 8mm

Pwysau: 275g

Pris manwerthu a argymhellir: £10

Gwybodaeth Bostio

Ni fydd archebion a dderbynnir ar ôl 16eg Rhagfyr yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Fel arfer, rydym yn defnyddio gwasanaeth y Post Brenhinol ar gyfer cludiadau o fewn y DU.

Ar gyfer postio a phecynnu, bydd y costau hyn yn cael eu hychwanegu at eich pryniant a’r opsiynau yw:

£7 drwy’r Post Brenhinol ar gyfer cludiant 5-7 diwrnod busnes safonol

Ar gyfer cludiadau y tu allan i’r DU, bydd y costau hyn yn cael eu hychwanegu at eich pryniant a’r opsiynau yw:

Ewrop £16.50 ar gyfer cludiant 5-7 diwrnod busnes safonol

Gweddill y Byd £28.50 ar gyfer cludiant 5-7 diwrnod safonol

Rhaid i’r unigolion sy’n derbyn unrhyw archebion lofnodi wrth dderbyn eu harcheb.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, rydym ar hyn o bryd yn wynebu rhywfaint o oedi wrth brosesu archebion yn ogystal â newidiadau i amserlenni cludo trwy longau a chludwyr. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd. Fodd bynnag, byddwch yn derbyn e-bost o gadarnhad unwaith y bydd eich archeb yn cael ei brosesu.

Rydym hefyd yn cludo cynnyrch yn rhyngwladol i’r rhan fwyaf o wledydd. Ar gyfer cyfraddau cludiant ac amseroedd cyrraedd gweler yr opsiynau wrth dalu. Yn dibynnu ar ble rydych wedi’ch lleoli, rydym yn defnyddio FedEx, DHL a Parcel Force ar gyfer Archebion Rhyngwladol. Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio disgresiwn mewn amgylchiadau lle mae’n gwneud mwy o synnwyr defnyddio dull cludo arall.

Polisi Dychwelyd

Os nad ydych yn gwbl fodlon â’ch archeb am unrhyw reswm – p’un a ydych wedi newid eich meddwl neu wedi penderfynu nad ydych yn ei hoffi – byddwn yn hapus i gynnig ad-daliad i chi neu gyfnewid yr eitem o fewn 30 diwrnod i’w phrynu. 

 

O dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell, os ydych yn prynu nwyddau ar-lein neu dros y ffôn, mae eich hawliau fel defnyddiwr yn rhoi’r hawl i chi gael ad-daliad llawn os byddwch yn gofyn am un yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod gwaith i dderbyn eich eitemau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dâl dosbarthu ond nid yw’n cynnwys cost dychwelyd yr eitem.  

 

Os oes problem gyda’ch eitem (os ydym wedi gwneud camgymeriad, neu os bydd eich archeb yn cyrraedd wedi’i difrodi) ceisiwch roi gwybod i ni ar unwaith drwy e-bostio info@artesmundi.org, a byddwn yn trefnu i gyfnewid yr eitem neu roi ad-daliad i chi cyn gynted â phosibl. 

 

Diweddariad Brexit: 

*Sylwch ein bod wedi gorfod atal anfon nwyddau i wledydd yr UE dros dro hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach. Yn anffodus, mae hyn yn golygu na allwn anfon eitemau cyfnewid ar hyn o bryd yn lle archebion a wnaed eisoes sydd wedi’u dychwelyd gan gwsmeriaid sy’n preswylio yn yr UE. Yn hytrach, os oes problem gyda’ch archeb, cysylltwch ag info@artesmundi.org a byddwn yn rhoi ad-daliad.* 

 

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn gwerthfawrogi’n ddiffuant eich cefnogaeth i Artes Mundi. 

 

SUT I GANSLO EICH ARCHEB 

 

I ganslo eich archeb, cysylltwch â’n tîm drwy e-bostio info@artesmundi.org 

 

SUT I DDYCHWELYD CYNHYRCHION Y SIOP 

 

Os ydych chi eisiau dychwelyd eich archeb neu ran ohoni, anfonwch e-bost atom yn info@artesmundi.org, rhowch nodyn yn y pecyn, ac anfon yr eitemau yn ôl atom i: 

 

Returns 

Artes Mundi 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 

Caerdydd CF10 3NP 

Y Deyrnas Unedig 

 

Unwaith y byddwn wedi derbyn yr eitem a’i chyfateb i’ch e-bost, byddwn yn prosesu eich ad-daliad, eich eitem newydd neu eitem gyfnewid cyn gynted â phosibl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd yr eitem mewn cyflwr perffaith, yn ei deunydd pecynnu gwreiddiol. 

 

Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, byddwn yn gwneud hynny gan ddefnyddio’r un manylion talu a ddefnyddiwyd i brynu’r eitemau. Ein nod yw prosesu pob eitem a ddychwelir o fewn 1-2 wythnos ond gallai’r ad-daliad gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith ychwanegol i ymddangos yn eich cyfrif, felly byddwch yn amyneddgar gyda ni.

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Catalog Artes Mundi 7”

Your email address will not be published. Required fields are marked *