Ragnar Kjartansson, The Sky in a Room

25 Mehefin – 3 Gorffennaf 2022
Eglwys y Santes Fair Fadlen, Tanworth-in-Arden

Mae Ikon (Birmingham) yn cyflwyno The Sky in a Room, prosiect mawr oddi ar y safle gyda’r artist o Wlad yr Iâ, Ragnar Kjartansson, wedi’i drefnu mewn cydweithrediad ag Artes Mundi.

 

Mae The Sky in a Room yn cynnwys cantorion proffesiynol yn cymryd tro i berfformio trefniant etheraidd o Il Cielo in una Stanza, y gân enwog gan Gino Paoli a ryddhawyd yn wreiddiol ym 1960. Gan chwarae’r organ eglwysig ar yr un pryd, mae’r cantorion yn ailadrodd y darn yn ddi-dor am bum awr bob dydd am naw diwrnod, fel hwiangerdd ddiddiwedd.

 

Bydd y perfformiadau’n digwydd bob dydd rhwng 2 a 7yh yn Eglwys y Santes Fair Fadlen, Tanworth-in-Arden, yng nghanol cefn gwlad Swydd Warwick. Mae’r lleoliad yn rhyfeddol o addas i waith Kjartansson – a nodweddir gan ryw deimlad o brudd-der – gan mai dyma hefyd y man lle claddwyd y canwr-gyfansoddwr Nick Drake.

 

Mae The Sky in a Room wedi’i greu gan yr artist Ragnar Kjartansson y mae ei waith artistig yn defnyddio amlgyfryngau, gan gynnwys gosodweithiau fideo, perfformiadau, arluniau a phaentiadau sy’n tynnu ar fyrdd o gyfeiriadau hanesyddol a diwylliannol. Mae rhyw dristwch ac eironi sylfaenol yn cysylltu’i weithiau, gyda phob un yn cael ei ddylanwadu arno gan gomedi a thrasiedi’r theatr glasurol. Mae’r artist yn pylu’r gwahaniaethau rhwng cyfryngau gan ymdrin â’i ddulliau paentio fel perfformiadau ac yn cyffelybu’i ffilmiau i baentiadau a’i berfformiadau i gerfluniau. Ar hyd yr amser mae Kjartansson yn cyfleu diddordeb mewn harddwch a’i gyffredinedd ac mae’n defnyddio perfformio ailadroddus sy’n para dros amser fel ffordd o ymchwilio iddynt.

 

Cafodd y prosiect a gydgomisiynwyd yn wreiddiol gan Artes Mundi, Caerdydd ac Amgueddfa Cymru, a’i chefnogi gan Gronfa Ymddiriedolaeth a Chelf Derek Williams, ei berfformio’n gyntaf yn 2018. Fel rhan o’r gwaith, symudwyd yr holl baentiadau, gwrthrychau a dodrefn addurnol o oriel Celf ym Mhrydain 1700-1800, gan adael dim ond yr organ siambr o’r 18fed ganrif yng nghanol yr ystafell (mae cofnod o’r perfformiad ar gael yma). Yn 2020 cynhaliwyd The Sky in a Room yn eglwys San Carlo al Lazzaretto ym Milan – cafwyd y syniad yn sgil cyfnod clo Covid-19 a effeithiodd ar filiynau o Eidalwyr, yn arbennig dinasyddion Lombardi.

 

Bellach mae Ikon yn cyflwyno The Sky in a Room yn Eglwys y Santes Fair Fadlen, sy’n nodweddiadol Seisnig ei naws ac yn adeilad rhestredig Graddfa 1 o’r 14eg ganrif. Wedi’i lleoli ar ganol cymuned y pentref, mae’r eglwys hefyd yn enwog fel lleoliad bedd Nick Drake ac yn ganolbwynt i bererindod blynyddol i’w ddilynwyr, nid lleiaf yn 2022 sy’n dynodi 50 mlwyddiant yr albwm Pink Moon. Bydd Eglwys y Santes Fair Fadlen hefyd newydd gwblhau prosiect ailddatblygu er mwyn creu gofod croesawus a hygyrch i’r gymuned. The Sky in a Room sy’n lansio’r eglwys ar ei newydd wedd.

 

Mae’r perfformwyr ar gyfer cyflwyniad Ikon wedi’u recriwtio ar y cyd ag Echo, ensemble lleisiol sy’n cynnwys cantorion proffesiynol ifainc o bob cwr o’r DU. Bydd pob un yn cymryd ei dro mewn perfformiad parhaus o Il Cielo in una Stanza.

 

Gwybodaeth am y digwyddiad:

Perfformiadau dyddiol, 25 Mehefin – 3 Gorffennaf, 2yp – 7yh. Dim angen archebu lle, dim ond galw heibio. Mae croeso i gyfraniadau – cefnogwch ailddatblygu Eglwys y Santes Fair Fadlen. Diolch.

 

Sut i gyrraedd Tanworth-in-Arden:

Lleolir Tanworth-in-Arden 14.5 o filltiroedd i’r de-ddwyrain o Birmingham a 5.5 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Redditch. Cod post Eglwys y Santes Fair Fadlen yw: B94 5AL.  Yr orsaf drenau agosaf yw Danzey Green (1.2 milltir o Tanworth).

Credit: Ragnar Kjartansson, The Sky in a Room (2018). Perfformiwr, organ a’r gân Il Cielo in una Stanza gan Gino Paoli (1960). Comisiynwyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru. Drwy garedigrwydd yr artist, Luhring Augustine, Efrog Newydd ac Oriel i8, Reykjavik. Llun: Hugo Glendinning

Il Cielo in una Stanza yw’r gân orau y gwn i amdani sy’n sôn am drawsffurfio gofod. Fe’i cyfansoddwyd yn y 50au gan Gino Paoli a gafodd y syniad wrth orwedd yn y gwely mewn puteindy gyda dynes yr oedd wedi syrthio mewn cariad â hi. Wrth feddwl am yr ennyd hyfryd honno a sut mae teimladau’n trawsffurfio gofod, sut roedd waliau’r ystafell wedi newid yn goedydd diddiwedd, daeth yr alaw honno i’w ben. Cân yw hi sy’n gyfarwydd i bawb yn yr Eidal; bron nad anthem genedlaethol i serch yw hi yn y wlad honno. Gofod a serch. Dyma awdl i drawsffurfio gofod. The Sky in a Room.

Ragnar Kjartansson