Rushdi Anwar

Credit: Rushdi Anwar

Artist gweledol, ymchwilydd, actifydd distaw, ymgysylltydd cymunedol a cheisiwr tegwch cymdeithasol yw Rushdi Anwar. Yn wreiddiol o Halabja, Cwrdistan (Cwrdistan-Irac), yn aml bydd ei waith yn rhoi ystyriaeth i faterion cymdeithasol-wleidyddol Cwrdistan, Irac a’r Dwyrain Canol.

 

Mae’n tynnu ar brofiadau ac atgofion personol, gan fyfyrio’n farddonol ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â dadleoliad, hunaniaeth, gwrthdaro a’r trawma a ddioddefir o dan y cyfundrefnau trefedigaethol ac ideolegol.

 

Mae wedi cynnal arddangosfeydd undyn ac ar y cyd yn eang gydag arddangosfeydd ar y gweill sy’n cynnwys Biennale Sharjah 15: Thinking Historically in the Present, (2023); 5ed Biennale Casablanca, Moroco; wHole, Amgueddfa Celf Fodern Heide, Awstralia; Art in Conflict, Cofeb Ryfel Awstralia, Amgueddfa Gelf Shepparton; Gŵyl y Pryder Mawr, y prosiect New Kinds of Archives: Trauma, Knowledge & Feeling, Oriel RMIT, Awstralia, (i gyd yn 2022). Ar hyn o bryd mae’n gweithio yng Nghyfadran y Celfyddydau Cain, Prifysgol Chiang Mai, Gwlad Thai. 


Please click images to enlarge