GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Carrie Mae Weems

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Carrie Mae Weems

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno pumed sgwrs Wrth y bwrdd gyda’r artist Carrie Mae Weems.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol. Mae’r olaf ond un o chwe digwyddiad Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Carrie Mae Weems mewn sgwrs gyda’r artist a’r athro Sonia Boyce, OBE; Thomas J. Lax, Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn MoMA (Efrog Newydd); yr artist, awdur a’r curadur Umulkhayr Mohamed; a’r artist, steilydd a Sylfaenydd DOCKS Magazine, Nicole Ready. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

 

 

Drwy ffotograffiaeth, perfformiad a fideo, mae Carrie Mae Weems wedi creu corff cymhleth o gelf sy’n ymchwilio i berthynas pobl mewn teuluoedd, rolau rhyw, hiliaeth, gwahaniaethu ar sail dosbarth cymdeithasol a gwleidyddiaeth. Er bod Weems yn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o faterion, ei hymrwymiad cyffredinol yn ei holl waith yw ein helpu i ddeall ein heiliad bresennol yn well drwy archwilio ein gorffennol cyfunol. Mae gwaith Weems, derbynnydd grant MacArthur, i’w weld mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat ledled y byd gan gynnwys y Metropolitan Museum of Art; The Museum of Fine Arts, Houston; a’r Museum of Contemporary Art, Los Angeles. Mae wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd unigol a grŵp niferus mewn amgueddfeydd cenedlaethol a rhyngwladol o bwys gan gynnwys y Whitney Museum, y Museum of Modern Art, a’r Solomon Guggenheim Museum.

 

 

Daeth Sonia Boyce OBE RA i amlygrwydd ar ddechrau’r 1980au fel ffigwr allweddol yn sin gelfyddydol Ddu-Brydeinig ffyniannus y cyfnod hwnnw – gan ddod yn un o artistiaid ieuengaf ei chenhedlaeth i gael ei gwaith wedi’i brynu gan y Tate, gyda phaentiadau oedd yn ymdrin â hil a rhyw ym Mhrydain. Ar hyn o bryd mae Boyce yn Athro ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Llundain, lle mae’n dal y Gadair gyntaf mewn Celf a Dylunio Du. Bydd Boyce yn cynrychioli’r DU yn y 59fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia gydag arddangosfa newydd o bwys ar gyfer Pafiliwn Prydain yn 2022.

 

 

Thomas J. Lax yw Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn MoMA (Efrog Newydd) lle mae’n paratoi’r arddangosfa Just Above Midtown: 1974 to the Present gyda Linda Goode Bryant ar hyn o bryd. Bu’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws MoMA hefyd ar brosiect mawr yn ail-hongian casgliad yr amgueddfa a bu’n trefnu Unfinished Conversations. Cyn hyn, bu’n gweithio yn y Studio Museum yn Harlem. Mae Lax ar fwrdd Danspace Project a’r Jerome Foundation ac mae’n addysgu yn yr Institute for Curatorial Practice in Performance yn y Wesleyan University. Mae ar bwyllgorau cynghori sefydliadau gan gynnwys Contemporary And, The Laundromat Project, Participant Inc., a Recess Assembly.

 

 

Mae Umulkhayr Mohamed yn artist, awdur a churadur Somalïaidd Cymreig, sy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru ar hyn o bryd. Hi yw arweinydd curadu Lates: PITCH BLACK, cydweithrediad rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi, sy’n ddathliad aml-gelfyddyd o Dduwch fel rhywbeth di-ben-draw ac anfeidraidd. Mae ei harfer artistig yn ymwneud â chreu hierarchaethau i chwilio am gydsafiad a rhyddhad. Mae Mohamed yn rhan o Grŵp Curaduron Newydd y British Art Network, ac yn aelod o Black Curators Collective. Ar hyn o bryd mae’n gwneud Gradd Meistr mewn Diwydiannau Creadigol Byd-eang yn y School of Oriental and African Studies.

 

 

Mae Nicole Ready yn artist, cynhyrchydd a sylfaenydd DOCKS Magazine: cyhoeddiad blynyddol sy’n archwilio diwylliant Pobl Dduon a Phobl Groenliw yng Nghymru. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru gyda BA mewn Hyrwyddo Ffasiwn. Ar hyn o bryd mae Nicole yn Gynhyrchydd Ymgysylltu sy’n gweithio gydag Artes Mundi, Cynhyrchydd yn Amgueddfa Cymru, ac yn rhan o’r prosiect SSAP (Panel Cynghori Is-Sahara) Emerging Futures: Days Ahead. Cafodd Nicole sylw ar BBC Cymru Ar-lein yn trafod Mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, ac roedd yn aelod panel gwadd yng nghaffi Privilege.