Taith Disgrifio Sain: Firelei Báez

Taith Disgrifio Sain: Firelei Báez

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

Mae gwaith trawiadol Firelei Báez yn ailwampio testunau a delweddau sydd wedi’u cloddio o naratifau eang y diaspora wrth fynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol ac ymfudo i edrych ar bosibiliadau newydd i’r dyfodol. Mae ei phaentiadau hynod, lliwgar a manwl, sydd weithiau wedi’u cyfuno’n osodweithiau cerfluniol mawr, yn dwyn at ei gilydd fapiau trefedigaethol dan orchudd ciwiau gweledol symbolaidd sy’n ymestyn o decstiliau a gorchuddion waliau moethus gyda motiffau blodeuog o’r oes drefedigaethol i batrymau caligraffig, gweadau gwallt, penwisgoedd pluog a gemwaith gleiniog. Yn aml yn cynnwys protagonyddion benywaidd cryfion, mae ei gweithiau’n ymgorffori ieithoedd gweledol mytholeg a hanesion y Carabî ochr yn ochr â’r rheini a geir mewn ffuglen a ffantasi wyddonol i ddarlunio hunaniaethau fel pethau ansefydlog a straeon a etifeddir fel rhai sy’n esblygu o hyd tuag at fydoedd a chyflyrau bodolaeth dychmygol a newydd.