Oasis One World Choir
Mai 2023 – Ebrill 2024
Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri
Fel rhan o raglen gyhoeddus AM10, buom yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau i ddatblygu cyfres o brosiectau gyda chymunedau. Cafodd y rhain eu gwireddu mewn ymateb i’r themâu a’r syniadau a oedd yn bresennol yn yr ymarferion a’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos gan bob un o’r saith artist. Cymerodd y prosiectau sawl ffurf tra bod cymunedau hefyd wedi cyfrannu at ein cyfres o bodlediadau a chynhyrchu labeli deongliadol a ddangosir yn yr orielau.
Credit: Oasis One World Choir and Mounira Al Solh at Artes Mundi 10, National Museum Wales, Cardiff, 20th October 2023. Photography: Polly Thomas
Credit: Oasis One World Choir and Mounira Al Solh at Artes Mundi 10, National Museum Wales, Cardiff, 20th October 2023. Photography: Polly Thomas
Bu Oasis One World Choir yn gweithio gyda’r artist Mounira Al Solh ar ddau berfformiad cydweithredol ar 20 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Hefyd, creodd Al Solh bortreadau o sawl aelod o’r côr ar gyfer ei chyfres ddarlunio barhaus ‘I believe in our right to be frivolous’ a oedd yn rhan o’i harddangosfa ar gyfer AM10. Yn dilyn y perfformiadau, fe wnaethom hefyd drefnu taith gyfnewid greadigol lle cyfarfu Oasis One World Choir â Chôr Hafren yn Oriel Davies dros benwythnos 20 Ionawr. Gweithiodd y ddau gôr gyda’i gilydd ar gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys ‘teithiau cerdded a chanu,’ rhannu prydau a pherfformio yn arddangosfa Carolina Caycedo fel rhan o AM10. Yn gyffredinol, yn ogystal â’r digwyddiadau cyhoeddus gyda dros 20 o gyfranogwyr, roedd y prosiect cymunedol hwn hefyd yn cynnwys 10 gweithdy, pedwar cyfweliad i’w cynnwys mewn podlediadau, a thestun a gynhyrchwyd fel ‘para-label’ ac a gyflwynwyd ochr yn ochr â gwaith Al Solh.
Please click images to enlarge
Partneriaid Cyflwyno
Partneriaid Craidd
Partneriaid Cyllido