Artes Mundi 9 Rhagolwg o'r Wasg Ddigidol

Gwybodaeth a chyswllt allweddol

8 Mawrth: Wythnos Rhagolwg y Wasg Ddigidol

15 Mawrth: Arddangosfa Ddigidol yn Agor

11 Mawrth: Rhaglen Sgyrsiau Artistiaid yn Dechrau

7 Mehefin: Diwrnod Rhagolwg y Wasg

17 Mehefin: Cyhoeddiad Enillydd Gwobr Artes Mundi 9 ar-lein




Asedau

Cliciwch yma i weld ffeiliau delwedd a chyrchu dolenni fideo
cyfrinair: am9-press-preview

Cliciwch yma i gael datganiad i'r wasg ac
testunau didactig
cyfrinair: am9-press-preview



Cyswllt

Gwasg y DU a rhyngwladol
tory.lyne-pirkis@midaspr.co.uk

Gwasg Gymraeg
Elena Huntley, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
marketing@artesmundi.org

Gwasg iaith Gymraeg
lleucu.cooke@museumwales.ac.uk

Bydd Artes Mundi 9 – gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol fwyaf y DU – yn lansio’r fersiwn ddigidol o’i harddangosfeydd ffisegol gyda thri lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a g39 ddydd Llun 15 Mawrth.

 

Oherwydd yr heriau parhaus yn sgil COVID-19, bydd Artes Mundi 9 yn agor yn rhithwir ar 15 Mawrth i ddechrau a bydd yn parhau ar gael i’w gweld tan ddydd Sul 5 Medi. Mae ymweliadau wyneb yn wyneb wedi bod yn bosibl ers 19 Mai, o’r blaen roedd y cynulleidfaoedd hyn yn gallu mwynhau’r arddangosfa trwy deithiau cerdded fideo dan arweiniad cyflwyniad pob artist a dogfennau ffotograffig o hyd yn yr orielau.

 

Bydd cyhoeddiad enillydd Gwobr Artes Mundi 9 yn digwydd yn ddigidol ddydd Iau 17 Mehefin 2021. Bydd panel beirniaid arbenigol yn dewis enillydd y wobr o £40,000 o blith yr artistiaid Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA).

 

Bydd lansiad rhithwir Artes Mundi 9 yn nodi premiere byd-eang gweithiau newydd mawr gan nifer o’r artistiaid hyn ar y rhestr fer, gan gynnwys gosodiad ffotograffig Carrie Mae Weems The Push, The Call, The Scream, The Dream, ffilm newydd About Falling gan Beatriz Santiago Muñoz, a chyfres o baentiadau deinamig ar raddfa fawr gan Firelei Báez. Mae gosodiad ymgollol sy’n cynnwys cerfluniau, lluniadau a sain gan Dineo Seshee Bopape yn defnyddio pridd a chlai o safleoedd cysegredig Cymreig ynghyd â phridd o leoliadau eraill ledled y byd gan gynnwys Île de Gorée, Senegal; James River, Richmond, Virginia; Afon Mississippi, New Orleans; Coedwig Achimota, Accra, Ghana. Ac mae Prabhakar Pachpute wedi datblygu gosodiad o baentiadau ar faneri cynfas sy’n parhau â’i drafodaeth am y gweithiwr unigol yng nghyd-destun grymoedd corfforaethol ac economaidd mwy.

 

Fel rhan o arlwy ddigidol newydd Artes Mundi, bydd rhaglen gyhoeddus gref yn cael ei lansio ar-lein ochr yn ochr â’r arddangosfa, wedi’i strwythuro fel cyfres o sgyrsiau, podlediadau, gweithgareddau a digwyddiadau byw sy’n cael eu ffrydio ac i’w lawrlwytho. Gan ddechrau gyda thrafodaethau panel, byddant yn rhoi golwg ddyfnach ar ymarfer, syniadau, ystyriaethau a meddylfryd pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer a’u gwaith.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bob artist, cynnwys eu harddangosfa a delweddau o weithiau sy’n cael eu harddangos trwy glicio ar y delweddau portread artist isod.


Cliciwch ar bortreadau artistiaid i archwilio eu gwaith ymhellach

Artes Mundi 9: Rhagolwg o’r Wasg Ddigidol

Firelei Báez

Dominican Republic

Artes Mundi 9: Rhagolwg o’r Wasg Ddigidol

Dineo Seshee Bopape

South Africa

Artes Mundi 9: Rhagolwg o’r Wasg Ddigidol

Meiro Koizumi

Japan

Artes Mundi 9: Rhagolwg o’r Wasg Ddigidol

Beatriz Santiago Muñoz

Puerto Rico

Artes Mundi 9: Rhagolwg o’r Wasg Ddigidol

Prabhakar Pachpute

India

Artes Mundi 9: Rhagolwg o’r Wasg Ddigidol

Carrie Mae Weems

USA

Artes Mundi 9

Credit: Carrie Mae Weems. From Constructing History, 2008. Archival pigment prints. Courtesy the artist and Jack Shainman Gallery, New York. Installation view: Artes Mundi 9. Photography: Stuart Whipps

Credit: Firelei Báez, Untitled (City Incinerator 'B'), 2021; Untitled (A Map of the British Empire in America), 2021. Courtesy the artist and James Cohan, New York. Photography: Polly Thomas

Credit: Beatriz Santiago Muñoz. Gosila, 2018; About falling, 2021. Courtesy the artist. Photography: Polly Thomas

Bydd arddangosfa Artes Mundi 9 yn arddangos gwaith gan chwe artist cyfoes rhyngwladol blaenllaw mewn tri lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a g39. Dewiswyd y rhestr fer gan feirniaid arbenigol o blith mwy na 700 o enwebiadau o 90 o wledydd ac mae enillwyr diweddar yn cynnwys: Theaster Gates (2015), John Akomfrah (2017) ac Apichatpong Weerasethakul (2019).

 

Er i’r rhestr fer gael ei chadarnhau gyntaf ym mis Medi 2019 – ar adeg pryd na allai fawr neb ddarogan beth roedd y byd yn rhuthro tuag ato – nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod yr artistiaid i gyd yn ystyried, ymdrin â ac yn cwestiynu rhai o’r materion mwyaf tyngedfennol yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae cyflwyniadau o waith newydd a diweddar yn canolbwyntio ar effaith difaol hanesion trefedigaethu, newid amgylcheddol, trawma ac iacháu rhwng cenedlaethau, adladd a chynhysgaeth gwrthdaro a phryderon parhaus ynglŷn â chynrychiolaeth a braint.

 

Mae’r artist Firelei Báez a aned yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac sy’n byw yn Efrog Newydd yn edrych ar naratifau alltudiaeth, yn dathlu goddrychedd du benywaidd ac yn dychmygu posibiliadau newydd i’r dyfodol drwy baentiadau deinamig, hynod a manwl. Drwy osodwaith ymdrwythol newydd, mae’r artist o Dde Affrica Dineo Seshee Bopape yn ymgysylltu’n faterol ac yn gysyniadol â lle, hanes a chanlyniadau’r fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd drwy wrthrychau, defod a chân gan gyflwyno celfyddyd fel rhywbeth sy’n ymgorffori’r potensial ar gyfer cydnabod a chyfamodi.

 

Mae triptych fideo teimladwy’r artist o Japan Meiro Koizumi Angels of Testimony yn mynd i’r afael â chynhysgaeth yr Ail Ryfel rhwng Tsieina a Japan (1937-1945), gan ddatgymalu tabŵs diwylliannol a chychwyn y broses iacháu drwy gydnabod hanesion cywilyddus. Mae pum ffilm a fideo’r artist o Puerto Rico, Beatriz Santiago Muñoz yn cydblethu’n farddonol i greu gosodwaith haenog o naratifau aflinol sy’n ystyried hanesion ac effaith presenoldeb parhaus gwahanol drefedigaethwyr ar Puerto Rico, ei thirwedd, ei phobl a’i diwylliant.

 

Mae Prabhakar Pachpute— y bu ei deulu’n gweithio ym mhyllau glo canol India am dair cenhedlaeth – yn tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol a rennir â’r gymuned lofaol yng Nghymru i greu gosodwaith sy’n cynnwys paentiadau, baneri a gwrthrychau sy’n harneisio eiconograffeg protest a gweithredu torfol. Mae gwaith gan yr artist Americanaidd Carrie Mae Weems, sy’n enwog am ei hymgysylltu pwerus â chynrychiolaeth ddu a benywaidd, yn cwmpasu hunaniaeth ddiwylliannol, hiliaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol a chanlyniadau grym. Mae gosodwaith ffotograffig newydd yn ystyried y diweddar actifydd hawliau sifil John Robert Lewis yng nghyd-destun y presennol, gyda detholiad o ddarnau mawr o’i hymgyrch celfyddyd gyhoeddus diweddar yn ymchwilio i effaith anghymesur y pandemig ar gymunedau lliw wrth gynnig negeseuon o obaith.

 

Yn ôl Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: Llwyfan yw Artes Mundi ar gyfer gwahanol bersbectifau a lleisiau sy’n ceisio ysgogi deialog ystyrlon. Hyfrydwch pur i ni yw cyhoeddi dyddiadau diwygiedig Artes Mundi 9 ac rydyn ni’n ymrwymedig i gyflwyno rhaglen sy’n ddiogel i’r holl artistiaid, cynulleidfaoedd, partneriaid a chefnogwyr. Wrth i ni fyw drwy ac ymgysylltu â newidiadau byd eang pellgyrhaeddol, yn fwy nag erioed, mae gwaith pob un o’r chwe artist yn ymdrin ac yn taro deuddeg â’r syniadau a materion y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw fel unigolion ac yn dorfol yn ein cymdeithasau sy’n ymwneud â thegwch, cynrychiolaeth, trawma a braint.

 

Detholwyd y rhestr fer gan reithgor oedd yn cynnwys Cosmin Costinas, Cyfarwyddwr Gweithredol a Churadur Para Site, Hong Kong a Chyfarwyddwr Artistig Triennale Kathmandu 2020; Elvira Dyangani Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom yn Llundain; a Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes, Sydney, Awstralia.

 

Yn ôl y rheithgor: Gan gwmpasu paentio ac arlunio, gwneud gwrthrychau, ffilm a fideo, mae gwaith yr artistiaid yn eistedd o fewn cyddestun yr amgueddfa a thu hwnt; mae rhai’n trawsnewid gofodau cyhoeddus ac eraill yn bodoli fel iteriadau byrhoedlog. Gan weithio yn erbyn y syniad o ganolbwynt, maent yn adlewyrchu gwahanol naratifau byd-eang mewn ffyrdd cyffrous yn ogystal â meddylgar. Mae gweithiau’r artistiaid hyn yn ymdrin mewn ffordd bwerus â’r grymoedd newidiol sy’n siapio ein byd, gan gwmpasu themâu o hunaniaeth ac adrodd, strwythurau cymdeithasol a’r cof torfol, a diwydiant a’r argyfwng ecolegol.


Rhaglen Sgyrsiau a Digwyddiadau

Sgyrsiau At the table...

Credit: Sonia Boyce

Credit: Thomas J. Lax

Credit: Elvira Dyangani Ose

Caiff y rhaglen sgyrsiau ei chynnal ar Zoom a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd sgyrsiau Wrth y bwrdd AM DDIM i bawb gyda’r gyntaf yn cael ei lansio ddydd Iau 11 Mawrth am 8pm GMT. Bydd pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn sgwrsio ag arbenigwyr o bob cwr o’r byd. Mae’r digwyddiadau byw hyn bellach ar gael i wrando arnynt fel podlediadau, cliciwch yma.

 

Dydd Iau 11 Mawrth, 8pm GMT: FIRELEI BÁEZ

Mwy o wybodaeth

 

Yr artist rhestr fer AM9 Firelei Báez yn sgwrsio gyda Dr Francesca Sobande, darlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddiwylliant digidol, hunaniaeth Ddu a’r diaspora, ffeministiaeth, a diwylliant poblogaidd; a’r artist a’r ymchwilydd o Gaerdydd sy’n hanu o Trinidad yn wreiddiol, Dr Adéọlá Dewis. Bydd y sgwrs yn cael ei chadeirio gan un o feirniaid Artes Mundi 9 Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia.

 

Dydd Iau 8 Ebrill, 7pm BST: DINEO SESHEE BOPAPE

Mwy o wybodaeth

 

Yr artist rhestr fer AM9 Dineo Seshee Bopape yn sgwrsio gyda Chyfarwyddwr Rhaglenni RAW Material Company, Senegal, Marie Hélène Pereira, un o feirniaid Artes Mundi 9 a Chyfarwyddwr The Showroom, Llundain, Elvira Dyangani Ose, a’r artistiaid Evan Ifekoya a Tina Pasotra.

 

Dydd Mercher 21 Ebrill, 7pm BST: BEATRIZ SANTIAGO MUÑOZ

Mwy o wybodaeth

 

Yr artist rhestr fer AM9 Beatriz Santiago Muñoz yn sgwrsio gyda’r anthropolegydd, y ffeminist, y bardd a’r artist perfformio a’r ymgyrchydd Gina Athena Ulysse, Francis McKee (Cyfarwyddwr CCA Glasgow); ac Yvonne Connikie (Artist a Sylfaenydd Gŵyl Ffilm Ddu Cymru).

 

Dydd Gwener 7 Mai, 7pm BST: CARRIE MAE WEEMS

Mwy o wybodaeth

 

Yr artist rhestr fer AM9 Carrie Mae Weems yn sgwrsio gyda’r artist Sonia Boyce, a fydd yn cynrychioli’r DU yn Biennale Fenis yn 2021, Thomas J Lax, Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn MOMA Efrog Newydd, yr artist, yr awdur a’r curadur Umulkhayr Mohamed a Nicole Ready (Artist, Steilydd a Sylfaenydd DOCKS Magazine).

 

Dydd Mercher 19 Mai, 1pm BST: MEIRO KOIZUMI

Mwy o wybodaeth

 

Yr artist rhestr fer AM9 Meiro Koizumi yn sgwrsio gyda Chyfarwyddwr Artistig Canolfan Celfyddyd Gyfoes Factory, Dinas Ho Chi Minh, Fiet-nam, Zoe Butt, hanesydd, cymdeithasegydd cymharol, seicolegydd ac addysgwr Abu-Bakr Madden Al Shabazz ac Evie Manning (Cyd-gyfarwyddwr, Common Wealth Theatre yng Nghaerdydd a Bradford).

 

Dydd Mercher 26 Mai, 7pm BST: PRABHAKAR PACHPUTE

Mwy o wybodaeth

 

Yr artist rhestr fer AM9 Prabhakar Pachpute, y curadur a’r darlithydd, Zasha Colah, Llyfrgellydd Llyfrgell Glowyr De Cymru Siân Williams, a Dr Radhika Mohanram, awdur ac Athro Saesneg yn y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Rhaglen Ddigwyddiadau

TEITHIAU Â SAIN-DDISGRIFIAD 

 

Bydd pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn gallu profi’r arddangosfa drwy ddigwyddiadau ar-lein awr o hyd. Bydd y Disgrifydd Sain Anne Hornsby yn cyfleu pedwar gwaith celf yn ofalus ym mhob sesiwn, gyda Chynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi yn bresennol i ddarparu cyd-destun ychwanegol ac i hwyluso’r sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.

 

Dydd Mercher 7 Ebrill 2021 am 12pm Sain BST yn sain-ddisgrifio Carrie Mae Weems

Dydd Mercher 21 Ebrill 2021 am 12pm Sain BST yn sain-ddisgrifio Prabhakar Pachpute

Dydd Mercher 5 Mai 2021 am 12pm Sain BST yn sain-ddisgrifio Beatriz Santiago Muñoz

Dydd Mercher 26 Mai 2021 am 12pm Sain BST yn sain-ddisgrifio Firelei Báez

Dydd Mercher 16 Mehefin 2021 am 12pm Sain BST yn sain-ddisgrifio Meiro Koizumi

Dydd Mercher 30 Mehefin 2021 am 12pm Sain BST yn sain-ddisgrifio Dineo Seshee Bopape

 

DANGOSIADAU FFILM 

 

Mewn partneriaeth â g39, bydd Artes Mundi yn llwyfannu cyfres o ddangosiadau ffilm o weithiau ychwanegol gan artistiaid ar y rhestr fer gyda dyddiadau i’w cadarnhau ar gyfer mis Gorffennaf.

 

RHAGLEN I DEULUOEDD 

 

Bydd gweithgareddau i deuluoedd sy’n cael eu ffrydio’n fyw yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol yr arddangosfa, a gynllunnir gan Gynhyrchwyr Ymgysylltu Artes Mundi. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys collage, adrodd straeon, perfformio, tynnu lluniau a llawer mwy. Bydd gwaith ysgrifennu newydd yn cael ei gyflwyno hefyd gan yr awduron preswyl i blant, Hanan Issa ac Yousuf Lleu Shah a fydd yn creu gwaith newydd mewn ymateb i Artes Mundi 9.

 

GWAITH AR Y CYD RHWNG YR ARTISTIAID A’R GYMUNED 

 

Ochr yn ochr â’r arddangosfa bob dwy flynedd, mae gan Artes Mundi bartneriaethau cyd-greadigol hirsefydlog a pharhaus, yn enwedig gyda’r Aurora Trinity Collective i ddatblygu a rhannu gwybodaeth a sgiliau creadigol mewn man diogel a chroesawgar. Mae’r gydweithfa’n cynnwys ffoaduriaid benywaidd, y rhai sy’n ceisio lloches a menywod yn y gymuned ehangach, gyda phwyslais ar les pob un o’r aelodau.

 

HWYRNOS: Y FAGDDU

 

Mae Artes Mundi yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac arweinydd y prosiect, Umulkhayr Mohamed, i gyflwyno  Hwyrnos: Y FAGDDU mewn cyfres o ddigwyddiadau digidol ddydd Iau 6 Mai, dydd Iau 13 Mai, dydd Iau 20 Mai, dydd Iau 27 Mai. Bydd cynulleidfaoedd yn gallu profi gwaith sydd newydd ei gomisiynu gan bedwar artist – Omikemi, June Campbell-Davies, Yvonne Connikie a Gabin Kongolo – trwy gyfres o gyflwyniadau ar-lein hefyd yn cynnwys trafodaethau Holi ac Ateb a setiau DJ byw.

 

GYDA CHWMNI DAWNS CENEDLAETHOL CYMRU 

 

Mae Artes Mundi yn gwahodd dawnswyr o Gymdeithion Ifanc Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Kokoro Arts i greu coreograffi newydd mewn ymateb i waith Prabhakar Pachpute. Perfformiwyd y coreograffi ar-lein am 15 Mai yng ngŵyl U Dance Cymru am 6pm BST.

 

PROSIECTAU A ARWEINIR GAN ARTISTIAID A PHROSIECTAU MEWN YMATEB I AM9 

 

Mae cyfres o weithdai corfforol/digidol hybrid, perfformiadau a chomisiynau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gan rai fel Aurora Trinity Collective, Dr Adéọlá Dewis, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Yvonne Connikie a Jo Fong a byddant yn cael eu cynnal gydol cyfnod yr arddangosfa. Disgwyliwch sesiynau creadigol ar decstilau a lles, cyflwyniadau o waith newydd a sesiynau cerdded, ymhlith mwy. Mae cyfres ddigwyddiadau Yvonne Connikie ‘Deep Dive Archive’ bellach wedi lansio gwenyn, mwy o wybodaeth yma.

 

O HYN YMLAEN: STRAEON BYRION 

 

Mae Artes Mundi a Llenyddiaeth Cymru wedi gweithio gyda Where I’m Coming From i gasglu a chyflwyno straeon o bob cwr o Gymru. Drwy alwad agored, bydd pobl yn cael eu gwahodd i rannu’r straeon a syniadau sydd wedi’u hennyn gan Artes Mundi 9. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd chwe awdur ar y rhestr fer yn derbyn mentora datblygu stori un-i-un gyda Hanan Issa, Durre Shawar a Taylor Edmonds o Where I’m Coming From. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddarlunio gan yr artist arobryn Efa Blosse-Mason hefyd ac fe’i cyhoeddir yn adran Cyfnodolyn newydd gwefan newydd Artes Mundi i’w lansio ar 15 Mawrth.

 

RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID AR GYFER ARTISTIAID CYMREIG AC ARTISTIAID YNG NGHYMRU 

 

Mewn cydweithrediad â g39, mae Artes Mundi yn trefnu tiwtorialau un-i-un rhwng artistiaid Cymreig ac artistiaid o Gymru gyda rhai sy’n cyfrannu at y rhaglen gyhoeddus, gan gynnwys: Francis McKee, Gina Athena Ulysse, Prabhakar Pachpute, Beatriz Santiago Muñoz, Meiro Koizumi ac Zasha Colah.

NODIADAU I OLYGYDDION

Arddangosfa ddigidol yn rhedeg: 13 Marwth 2021 i 5 Medi 2021

Arddangosfa gorfforol: 19 Mai – 5 Medi 2021

Cyhoeddiad Gwobr Artes Mundi 9: 17 Mehefin 2021 ar-lein

Canolfannau’r Arddangosfa:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP

Chapter, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Lleoliad y digwyddiad:

g39, Oxford St, Caerdydd CF24 3DT

Mynediad: Am ddim

Gwybodaeth: www.artesmundi.org | @artesmundi


Canmoliaeth i Artes Mundi

“fy hoff wobr” Golygydd y Celfyddydau Will Gompertz yn Newyddion y BBC

“Mae Artes Mundi yn dathlu’r gorau o ran celfyddyd gyfoes ryngwladol” Gwasanaeth y Byd y BBC

“Gwobr gelf fwyaf proffidiol Prydain” Daily Telegraph

“Mae Artes Mundi yn rheoli sioe gymhleth a gwerth chweil” Frieze

“y wobr celf gyfoes y rhoddir y gwerth fwyaf arni yn y Deyrnas Unedig” Art Asia Pacific


Am Artes Mundi

Sefydliad celfyddydol rhyngwladol yw Artes Mundi â’i gartref yng Nghaerdydd. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Artes Mundi yn ymrwymedig i gefnogi artistiaid gweledol cyfoes rhyngwladol y mae eu gwaith yn ymdrin â realiti gymdeithasol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo. Cynhelir Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi yn eilflwydd gan redeg rhaglen barhaus o brosiectau ymestyn allan a dysgu ochr yn ochr â’r arddangosfa a gwobrwyo cyhoeddus. Yr enillwyr blaenoro yw: Apichatpong Weerasethakul (2019) John Akomfrah (2017), Theaster Gates (2015), Teresa Margolles (2013), Yael Bartana (2010), N S Harsha (2008), Eija-Liisa Ahtila (2006), ac Xu Bing (2004).

 

Ariennir Artes Mundi yn gyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae cyllidwyr eraill yn cynnwys Cyngor Prydeinig Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Foyle, Ymddiriedolaeth Myristica, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru ac Eversheds Sutherland.


Am Gyfarwyddwr Artes Mundi Nigel Prince

Mae Nigel Prince yn gweithio’n rhyngwladol fel curadur ac ysgolhaig ers dros 25 mlynedd. Cyn ymuno ag Artes Mundi, bu Nigel yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol yr Oriel Celfyddyd Gyfoes yn Vancouver rhwng 2011 a 2019. Mae wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau celf rhyngwladol uchel eu bri megis Tate Lerpwl ac Oriel Ikon yn Birmingham (2004 – 2010) ac yn ystod ei yrfa mae wedi curadu sawl arddangosfa nodedig gydag artistiaid cyfoes rhyngwladol blaenllaw fel Olafur Eliasson, Carmen Herrera, Ryan Gander, Andrea Zittel a Donald Judd. Yn y DU, cynghorydd ar y celfyddydau oedd Nigel i Gyngor Celfyddydau Lloegr (1993-98) ac yn Gadeirydd i’r gynhadledd New Thinking in Public Art: Habitat, Community, Environment yn Tate Britain yn 2004.

 

Am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Lansiwyd Amgueddfa Gelf Cymru yn 2011 ac mae’n ymestyn dros lawr cyntaf cyfan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i roi cartref i gasgliadau celf cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys y casgliad byd-enwog o waith gan yr argraffiadwyr, yn eu plith Monet, Cézanne, Manet, Renoir, Van Gogh a Rodin. Cymerodd bum mlynedd o ddatblygu i greu Amgueddfa Gelf Cymru oherwydd i’r orielau oedd eisoes yno gael eu hailwampio’n llwyr; trawsnewidiwyd orielau eraill yn ofodau newydd syfrdanol, gan gynnig dros 40% mwy o le i arddangos celfyddyd fodern a chyfoes.

www.museumwales.ac.uk

 

Am Chapter

Wedi’i sefydlu ym 1971, canolfan i’r celfyddydau a diwylliant cyfoes yw Chapter sy’n cyflwyno sawl ffurf ar gelfyddyd gan groesawu dros 800,000 o ymwelwyr drwy ei drysau bob blwyddyn. Mae’n lleoliad sy’n ysgogi ac yn cefnogi gwaith artistig creadigol i ysbrydoli pawb i ymgysylltu’n ddwfn â’r celfyddydau. Mae Chapter yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o’r hyn sydd orau mewn celfyddyd gyfoes ynghyd â mynd â nhw ar daith; mae ei gofodau theatr yn cynnig llwyfan ar gyfer gweithiau byw arbrofol; mae ei dwy sinema yn cynnig ffilmiau annibynnol ochr yn ochr ag amrywiaeth o wyliau a digwyddiadau unigryw ac mae Hyb Ffilmiau Cymru yn dod â mwy o ffilmiau i fwy o bobl mewn mwy o leoedd ar draws Cymru. Drwy ei darpariaeth stiwdio, mae Chapter hefyd yn gartref i fwy na 38 o artistiaid, gwneuthurwyr, cwmnïau cysylltiedig a sefydliadau creadigol.

https://www.chapter.org

 

Am g39

Sefydliad a gofod creadigol cymunedol yng Nghaerdydd a reolir gan artistiaid yw g39 sy’n trefnu ac yn cyflwyno rhaglen gyhoeddus gynhwysfawr o weithgareddau, o arddangosfeydd pwysig, sgyrsiau a symposia ffurfiol i brosiectau arbrofol a digwyddiadau cymdeithasol. Mae g39 hefyd yn cynnal cynllun aelodaeth anffurfiol i egin artistiaid a’r rheini ar ganol eu gyrfaoedd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Drwy WARP (Rhaglen Adnoddau Artistiaid Cymru) maent yn cynnig cefnogaeth a chyngor, hyfforddiant a gwybodaeth i artistiaid gan hwyluso rhwydweithio rhwng artistiaid unigol a grwpiau.

https://g39.org