Held-Space

Credit: A promotional image for How Shall We Begin Again? A image of a small tree growing a garden. The title of the performance overlays the images in subtly staggered serif font. Photo: Jo Fong. Graphic Design: Lisa Mattocks

Mae Help-Space yn gasgliad o artistiaid Mwyafrif Byd-eang o bob cwr o Gymru sy’n ymddiddori mewn celfyddydau gweledol a pherfformio amrywiol. Gyda chefnogaeth Artes Mundi, maent yn cwrdd ar-lein unwaith y mis i drafod arferion, i ddatblygu a chymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau fel gwasanaethau stiwidio, mentoriaethau, dysgu oddi wrth y naill a’r llall, gweithdai a datblygu comisiwn, ac i rannu profiadau ynglŷn â’r anawsterau sy’n bodoli wrth geisio llywio’r byd celf yn ogystal â’r heriau a’r buddion sydd ynghlwm â bod yn greadigol. 

 

Ar ôl ei sefydlu fel cynulliad agored gan Artes Mundi yn 2020, gyda chymorth gan Sadia Pineda Hameed a Umulkhayr Mohamed, buan iawn y datblygodd i fod yn ofod lle’r oedd y grŵp yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Yn 2022, cefnogwyd y grŵp gan Farah Allibhai, a fu’n cydlynu cyfarfodydd ac yn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso methodolegau. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd rhaglen o gyfarfodydd un-i-un rhwng cymheiriaid a oedd yn canolbwyntio ar arferion unigolion, yn ogystal â chyfres o sesiynau grŵp beirniadol gyda Prabhakar Pachpute a Amak Mahmoodian fel artistiaid gwadd.

 

Ym mis Ionawr 2023, aeth y grŵp ati i gyd-greu comisiwn ar gyfer yr her 64 Million Artists’ January Challenge, a bu rhai aelodau yn cymryd rhan mewn gweithdy yn ymwneud ag arferion ymgorffori gyda’r cyfarwyddwr, y coreograffydd a’r perfformiwr, Jo Fong. Darparwyd cefnogaeth hefyd i alluogi teithiau ac ymweliadau ymchwil.

 

Cyn bo hir bydd aelodau Held-Space yn cydweithio i ddatblygu gweithgareddau a chyfleoedd newydd er mwyn cefnogi arferion ei gilydd, gydag ambell unigolyn hefyd yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau cyhoeddus a chomisiynau newydd.


Held-Space Artists

A close up photo of a woman wearing glasses and a pale green blouse with a floral print. Her face is slightly turned and she is looking in the same direction. She is in front of a plain white wall.

Radha Patel

A man of Indian decent, taking his own headshot is smiling at the camera. He is wearing a black t-shirt with green leaves on it. In the background, there is a wooded area below him and even further in the distance, there appears to be a lake.

Daniel Trivedy